Sicrwydd ansawdd

Yr Athro John Grattan

Yr Athro John Grattan

07 Chwefror 2014

Mae Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol Prifysgol yn Aberystwyth, wedi ei benodi i Fwrdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA).

Rôl y QAA yw darparu canllaw ac adolygu prifysgolion a cholegau ar draws y Deyrnas Gyfunol, gan farnu safonau academaidd ac ansawdd y profiad dysgu.

Mae'r Athro John Grattan yn awyddus i gefnogi QAA yn ei genhadaeth i warchod safonau a gwella ansawdd, gan alluogi addysg uwch i drawsnewid bywydau myfyrwyr heddiw fel y gwnaeth i’w fywyd ei hun.

Roedd yn fyfyriwr aeddfed ei hun, gan iddo weithiodd fel negesydd beic modur cyn mynd i brifysgol.

“Rwy'n credu'n gryf bod mynd i brifysgol yn fraint sy’n gallu newid bywydau pobl,” dywedodd. “Rhoddodd i mi’r cyfle i ddarganfod beth y gallwn i wneud yn dda ac fe’n anogodd i anelu at ragoriaeth. Rwyf am i bob myfyriwr gael yr un cyfle a gefais i."

Mae'r Athro Grattan o’r farn bod sicrhau ansawdd yn cynorthwyo prifysgolion a cholegau i barhau i ymdrechu i wella'r ddarpariaeth maent yn ei gynnig i fyfyrwyr. Rhan bwysig o hyn yw'r parodrwydd i ddatblygu ac addasu dulliau addysgu.

“Dylai Prifysgolion wneud popeth o fewn eu gallu er mwyn gwella profiad y myfyriwr,” ychwanegodd.

Ym marn yr Athro Grattan, un o'r prif heriau i QAA yw rheoli newid mewn pwyslais o sicrwydd i sbarduno gwelliant ('gwella'), gyda chymorth gan bob rhan o'r sector addysg uwch yn y DG.

Dywedodd Douglas Blackstock, Cyfarwyddwr Adnoddau QAA; "Mae'r Bwrdd yn gosod y strategaeth ar gyfer QAA, ac felly mae'n bwysig bod gennym ni’r bobl iawn o amgylch y bwrdd sy’n cwmpasu amrywiaeth o wahanol safbwyntiau, er mwyn sicrhau ein bod yn barod i ddelio â'r amgylchedd sy'n newid ym maes addysg uwch.

"Mae John yn ychwanegiad sydd i'w groesawu i'r Bwrdd, ac rydym yn edrych ymlaen at ei gyfraniad wrth lunio cyfeiriad sicrwydd ansawdd addysg uwch."

Mae’r Athro Grattan yn arbenigwr mewn geo-beryglon a llosgfynyddoedd ac yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, yn aelod arbenigol y Rhwydwaith Peryglon Iechyd Folcanig Rhyngwladol, a Phrif Olygydd y cyfnodolyn Archaeological Science. Mae ei ymchwil yn ymddangos yng nghofrestr risg cenedlaethol Swyddfa Briffio Ystafell A’r Cabinet.

Cyn dechrau ar ei swydd bresennol ym mis Ionawr 2012, ef oedd Deon y Gwyddorau yn Aberystwyth a chyn hynny roedd yn ddarlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.

AU6114