Cyfres o ddarlithoedd am dywydd eithafol

Duncan Clark

Duncan Clark

19 Chwefror 2014

Bydd ymgynghorydd golygydd amgylchedd y Guardian, Duncan Clark, yn cwestiynu os yw'n bosibl i adael triliynau o bunnoedd o danwydd ffosil yn y ddaear yn y ddarlith gyhoeddus ddiweddaraf i gael ei drefnu gan Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd y ddarlith, sy'n cael ei chynnal ar ddydd Iau 20 Chwefror am 6.30pm yn Adeilad Edward Llwyd, yn dilyn y stormydd diweddar yn Aberystwyth a ddaeth a dadleuon am y tywydd eithafol a newid yn yr hinsawdd yn agosach i gartref.

Sut ydyn ni’n cydbwyso ein hanghenion ar gyfer ynni wrth warchod ein hamgylchedd? Mae’n gwestiwn anodd a drwy gydol y rhanbarth, mae dadleuon parhaus am bŵer gwynt, ffracio ar gyfer nwy ac ynni niwclear yn codi.

Mae'n briodol felly bod cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus Cymru C3W, a lansiwyd ym mis Hydref 2013, yn ailgychwyn y mis hwn yn Aberystwyth.

"Nid yw'r awgrym bod pobl yn cael eu diflasu gan newid yn yr hinsawdd yn cael ei ategu gan yr hyn yr ydym wedi ei weld hyd yma yn ein cyfres o ddarlithoedd, " meddai Dr Andrew Thomas o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

"Ar nosweithiau oer yn y gaeaf rydym wedi cael neuaddau darlithio llawn â phobl leol, gan gynnwys plant ysgol leol, yn awyddus i ddysgu mwy am y pwnc," meddai.
Bydd darlithoedd bob pythefnos yn y dyfodol gan academyddion Cymru yn ystyried amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig â hinsawdd.

Ar ddydd Iau 6 Mawrth, bydd yr Athro Henry Lamb yn dangos sut y gall newid hinsawdd yn y gorffennol ddylanwadu ar esblygiad dynol, tra ar ddydd Iau 20 Mawrth, bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC yn esbonio ymateb amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

Bydd Cerys Jones a Sarah Davies yn trafod cymunedau lleol a'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o dywydd eithafol Cymru yn y gorffennol (8 Mai), tra ar 22 Mai bydd yr effaith bosibl ar lefel y môr o len iâ newidiol Ynys Las yn cael ei gyflwyno gyda ffilm gan yr Athro Tavi Murray o Brifysgol Abertawe.

Mae pob cyflwyniad yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb, ond bydd y digwyddiad olaf yn y gyfres yn 'ddadl ar yr hinsawdd fawr' ar 5 Mehefin.

Am ragor o fanylion am y digwyddiadau, ynghyd â recordiadau llawn o gyflwyniadau blaenorol, ar gael ar y Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru ar www.c3wales.org

Mae C3W yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o’r pedwar prifysgol fwyaf yng Nghymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe). Mae C3W yn ceisio gwella dealltwriaeth o achosion, natur, amseriad a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd.

Ynghyd ag ymchwil i ganfyddiadau o newid yn yr hinsawdd ac addasu a lliniaru ymatebion posibl, mae C3W yn anelu i wella dealltwriaeth a llywio'r broses o wneud penderfyniadau gan y Llywodraeth, gwneuthurwyr polisi, busnesau a'r sector addysg.

AU5314