Gwobr Llyfr Plant Firefly 2014

Dr Sarah Taylor

Dr Sarah Taylor

28 Chwefror 2014

Mae Dr Sarah Taylor o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill Gwobr Llyfr Plant Firefly eleni gyda'i llyfr sydd yn dilyn hynt a helynt Brenin Arthur a'i farchogion ond gyda sbin fodern iddo.  

Fe wnaeth y beirniaid wirioni gyda ffraethineb ag amseru comig y llyfr a’i henwyd Arthur and Me. Mae wedi'i anelu at blant 7-9 oed a bydd yn cael ei gyhoeddi gyda Firefly yn yr hydref.

"Fe ofynnon ni am stori gyfoes a chawsom y Brenin Arthur, ond roedd ysgrifennu doniol Sarah Todd Taylor a’i chymeriadau bywiog wedi ein hennill ni drosodd yn llwyr. Mae hon yn stori wych ac rydym yn falch iawn o’i chyhoeddi," meddai un o'r beirniaid, Penny Thomas.

Cafodd y wobr ei chynnig am stori blant gwreiddiol ar gyfer plant 7-9 oed a oedd yn cael ei gosod yn y Gymru gyfoes heddiw gan yr awdur plant newydd. Fe enillodd Sarah £500, wythnos yn Chawton House ar gwrs ysgrifennu a chyngor golygyddol gan Firefly Press.

Dywedodd Dr Taylor, Pennaeth Datblygu Strategol y Swyddfa Cynllunio'r Brifysgol, "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy newis. Cefais hwyl aruthrol yn ysgrifennu'r stori ac wrth fy modd y bydd mewn print cyn bo hir. Mae Aberystwyth yn le gwych i fod os ydych yn awdur. Mae cymuned ysgrifennu ffyniannus yma a llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau sy'n helpu i ddatblygu eich arddull ysgrifennu a'ch hyder."

Symudodd Dr Taylor i Aberystwyth o Swydd Efrog pan yn wyth oed. Dechreuodd ysgrifennu straeon byr yn y brifysgol ac mae wedi bod mewn pum detholiad yn y Wasg i Fenywod Cymru, Honno.

Mae ei gwaith wedi ymddangos hefyd yn y Western Mail ac ar BBC Radio 5 ac mae wedi cymryd rhan mewn prosiectau Grŵp Ymchwil Perfformio Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Pan nad yw’n ysgrifennu mae hi’n hoffi canu opera gyda AberOpera.

AU9214