Irac ac arfau dinistr eang

Y Llysgennad Richard Butler

Y Llysgennad Richard Butler

07 Mawrth 2014

Bydd y diplomydd adnabyddus o Awstralia, y Llysgennad Richard Butler yn traddodi darlith ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 10 Mawrth 2014.

Gwahoddwyd y Llysgennad Butler gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Sefydliad Coffa David Davies a bydd yn siarad ar y pwnc 'Iraq Was Disarmed: the invaders didn't find any WMD because there weren't any to find'.

Aberystwyth fydd yr unig leoliad yn y Deyrnas Gyfunol y bydd yn ymweld ag ef yn ystod ei daith.

Yn ystod ei ymweliad bydd yn cyfarfod gydag ymchwilwyr sy’n gweithio ym maes atal amlhad niwclear a bydd yn cynnal seminar arbennig yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Cynhelir y ddarlith, sydd yn agored i’r cyhoedd, ar ddydd Llun 10 Mawrth am 6 yr hwyr ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol ar gampws Penglais.

Mae’r Llysgennad Butler wedi dal nifer o swyddi uchel yn Awstralia, gan gynnwys Dirprwy Gynrychiolydd yr Atomic Energy Agency (IAEA) a’r OECD; Llysgennad Diarfogi (Genefa); Llysgennad yng Ngwlad Thai a Cambodia; Llysgennad a Chynrychiolydd Parhaol i’r Cenhedloedd Unedig (Efrog Newydd); a Llywodraethwr Tasmania.

Yn 2003, fe’i gwnaed yn Companion of the Order of Australia (AC), anrhydedd uchaf Awstralia i un o’i dinasyddion.

Yn 1995, penododd Prif Weinidog Awstralia ef yn Gadeirydd y Canberra Commission on the Elimination of Nuclear Weapons.

Yn y Cenhedloedd Unedig, Llysgennad Butler oedd Is-Gadeirydd yr Uwch-gynhadledd Ryngwladol ar Ddatblygu Cymdeithasol; Llywydd y Cyngor Economaidd a Chymdeithasol; a Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith a greodd UNAIDS; yn 1995, ef fu’n gyfrifol fod Cynulliad Cyffredinol y CU wedi mabwysiadu’r Cytundeb Cynhwysfawr ar Wahardd Profion Niwclear.

Yn 1997, fe’i penodwyd gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Kofi Annan, yn Gadeirydd Gweithredol Comisiwn Arbennig y Cenhedloedd Unedig i ddiarfogi Irac (UNSCOM).

Sefydlwyd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, y gyntaf o’i bath yn y byd, yn 1919 gyda chymorth gwaddol hael o £20,000 a roddwyd gan David Davies, er cof am y myfyrwyr a gafodd eu lladd a'u hanafu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn 2002 atgyfnerthwyd etifeddiaeth Davies gyda symud Sefydliad Coffa David Davies (DDMI) i Aberystwyth, o'i chanolfan yn Llundain, i ddod yn un o brif yrwyr ymchwil yr Adran, sy’n cael ei harwain gan gyfnodolyn blaenllaw'r Sefydliad, International Relations, sy’n ychwanegiad at y casgliad o gyfnodolion sydd cael eu golygu yn yr Adran.

AU9914