Robert Peston – beth sy’n gwneud Aber yn le mor arbennig

Robert Peston

Robert Peston

04 Ebrill 2014

Golygydd Economeg arobryn y BBC a Chymrawd Prifysgol Aberystwyth, Robert Peston, yn siarad am ei hoffter o Aberystwyth, yn dilyn ei sgwrs ar yr argyfwng ariannol byd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth neithiwr (dydd Iau 3 Ebrill).

Cyflwynodd Mr Peston ei ddarlith, Have we fixed the mess - are the rich economies of the West mended yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a oedd dan ei sang , fel rhan o Gyfres Darlithoedd Cyhoeddus Gregynog y Brifysgol.

Mae Robert Peston, a gafodd gydnabyddiaeth eang am ei waith yn ystod argyfwng bancio Northern Rock, wedi ennill nifer o wobrau am ei newyddiaduraeth a chafodd ei gyflwyno’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2011. Mae hefyd yn sylfaenydd yr elusen addysg, Speakers for Schools.

Dewch i adnabod Aberystwyth y penwythnos hwn

Yfory, dydd Sadwrn 5 Ebrill, bydd Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn i wahodd darpar fyfyrwyr a'u cefnogwyr i Ddiwrnod Agored. Mae disgwyl i gannoedd o ymwelwyr o bob rhan o'r wlad i fynychu a dod i adnabod Aber, un o’r tri lle gorau yn y byd ar gyfer profiad myfyrwyr.

Mae’r Brifysgol yn Aberystwyth wedi hen sefydlu ei hun ac mae ganddi draddodiad hir o ragoriaeth academaidd, ond mae hi hefyd yn edrych i’r dyfodol.

Mae hi’n ddigon bach i fod yn gyfeillgar ac i ganiatáu cysylltiadau ar draws adrannau, ond yn ddigon mawr hefyd i gynnig rhychwant eang o raglenni astudio yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, mewn pynciau proffesiynol a galwedigaethol.

Mae Aber ei hun yn dref prifysgol llawn bywyd mewn lleoliad eithriadol ar lannau Bae Ceredigion, lle mae’r bywyd cymdeithasol a diwylliannol deinamig yn troi o amgylch y Brifysgol.

Meddai’r Athro John Grattan, Dirprwy Is-ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr:

“Dod ar Ddiwrnod Agored prifysgol yw’r unig ffordd y gallwch fod yn siŵr fod y brifysgol sydd ar eich rhestr fer chi yn addas. Mae Aberystwyth yn lle gwych i fod yn fyfyriwr, ac ar ein Diwrnod Agored fe gewch gyfle i weld trosoch eich hun y lleoliad bendigedig a’r adnoddau academaidd, cymdeithasol a chwaraeon gwych sydd gennym.

“Bydd ein myfyrwyr a’n staff yn falch iawn o’r cyfle i siarad â chi am y llu o fanteision sy’n dod yn sgil byw ac astudio yn Aberystwyth, ac rydym yn addo ichi groeso cynnes a didwyll gan ein Prifysgol a’n cymuned. Mae Robert Peston yn gefnogwr brwd felly dewch i weld drosoch eich hun!"

Mae cyfle o hyd i gofrestru ar gyfer y diwrnod agored yfory drwy ddilyn y ddolen yma: http://www.aber.ac.uk/cy/open-days