Croesawu gwasanaeth trên bob awr

Stesion Aberystwyth

Stesion Aberystwyth

08 Ebrill 2014

Croesawyd y cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth 8 Ebrill, 2014) gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, o wasanaethau trên newydd bob awr ar amser brig rhwng Aberystwyth a'r Amwythig, gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon.

Dywedodd yr Athro McMahon; "Mae hyn yn newyddion gwych i bawb sy'n gysylltiedig ag Aberystwyth a'r ardal gyfagos. Mae'r llinell o Aberystwyth i’r Amwythig yn darparu cyswllt cludiant hanfodol ar gyfer miloedd lawer o fyfyrwyr o bob rhan o'r DG ac yn arbennig o Ganolbarth Lloegr, sy’n dewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad rhyngwladol sy’n denu myfyrwyr o fwy na 90 o wledydd ac mae academyddion blaenllaw yn teithio yma o bob cwr o’r byd yn gyson. Mae gwasanaeth trên rheolaidd a dibynadwy yn hanfodol ar gyfer y Brifysgol wrth iddi ymdrechu i adeiladu ar ei lwyddiant mewn byd sy'n gynyddol gystadleuol.

“Mae Llywodraeth Cymru i’w llongyfarch ar ei hymrwymiad i wasanaethau ar y lein. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau o Bwyllgor Cyswllt Rheilffordd yr Amwythig i Aberystwyth, sy'n cynnwys aelodau o Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, a gasglodd y dystiolaeth o'r galw potensial ar gyfer y gwasanaethau newydd hyn a fu mor ddylanwadol wrth sicrhau’r buddsoddiad hwn a gyhoeddwyd heddiw. Roedd yn bleser go iawn gweithio ochr yn ochr â'n myfyrwyr i wneud yr achos ar gyfer y gwasanaethau ychwanegol hyn.”

Mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd gwasanaethau ychwanegol yn gweithredu rhwng Aberystwyth a'r Amwythig o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gyda gwasanaethau bob awr yn ystod oriau brig y bore a’r prynhawn.

AU14914