Cydnabod gwasanaeth hir

Mike Gelly Jones, sydd wedi gwasanaethu Prifysgol Aberystwyth am bron i 53 o flynyddoedd.

Mike Gelly Jones, sydd wedi gwasanaethu Prifysgol Aberystwyth am bron i 53 o flynyddoedd.

16 Ebrill 2014

Cafodd 180 o aelodau staff Prifysgol Aberystwyth eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a’u gwasanaeth ymroddedig yng Ngwobrau Gwasanaeth Hir y Brifysgol a gynhaliwyd ar nos Lun 7 a nos Fawrth 8 Ebrill.

Yr aelod o staff sydd wedi gwasanaethu'r Brifysgol am y cyfnod hiraf ac a gafodd ei gydnabod yn y Gwobrau oedd Mike Gelly Jones, sydd wedi gweithio i'r Brifysgol ers 53 mlynedd.

Ymunodd Mike â’r Brifysgol ym mis Hydref 1961 ar ôl gweithio yn Woolworths am ychydig fisoedd ar ôl gadael yr ysgol.

Ymunodd â'r Adran Ddaearyddiaeth fel Cartograffydd lle bu'n gweithio am 41 mlynedd. Fe ymddeol yn gynnar yn 2002 ar ôl teimlo y byddai'n hoffi i roi cynnig ar rywbeth gwahanol, cyn dychwelyd ar ôl ychydig fisoedd i weithio fel gyrrwr y Brifysgol ac fel porthor yn adeilad Hugh Owen. Ychydig dros 11 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae'n dal i ffynnu.

“Rwyf wir wedi mwynhau fy amser yn y Brifysgol. Wrth weithio fel cartograffydd roeddwn yn cynhyrchu mapiau a graffiau ar gyfer llawer o bethau - unrhyw beth o sesiynau tiwtorial i erthyglau, cylchgronau a llyfrau. Ymhlith yr uchafbwyntiau oedd mapio’r gwastadoedd llaid ym Mae Bridgwater gyda'r Athro Clarence Kitson, ac yn Ynys Las gyda Bob Yates.”

Pan nad yw'n gyrru ar gyfer y Brifysgol mae Mike yn mwynhau cerdded ei gŵn, garddio, teithio, a gyrru ei feic modur BMW GS1150. Mae newydd ddychwelyd o fordaith ar hyd Camlas Panama ac mae bellach yn cynllunio taith feicio i'r Iseldiroedd ym mis Mehefin. Yn ystod y tair blynedd diwethaf teithiodd ar ei feic i Foroco, yr Alpau ac i Barcelona.

Wrth siarad am gyrraedd bron i 53 mlynedd o wasanaeth, dywedodd Mike; "Rwy'n falch o'r hyn yr wyf wedi ei gyflawni. Fy mwriad yw cadw’i fynd am ychydig o flynyddoedd eto os gallaf, ond dydych chi byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel!”

Mae gwraig Mike, Susan Jones, sy’n gweithio yng Nghanolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth, hefyd wedi gwasanaethau am gyfnod hir iawn, fel y mae’i mab, Simon Jones, sy'n gweithio fel technegydd cyfrifiadur gyda Gwasanaethau Gwybodaeth.

Mae'r Gwobrau, sydd bellach yn ei ail flwyddyn, yn cael eu cyflwyno i staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol sydd wedi gweithio i’r Brifysgol ers 20 mlynedd neu fwy.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon; "Dyma beth sy'n gwneud Prifysgol Aberystwyth mor arbennig - ymroddiad a ffyddlondeb ein staff.

“Y staff yw’r rhan bwysicaf o unrhyw sefydliad ac mae’r noson yn gyfle gwych i ddiolch iddynt a dathlu'r hyn y maent wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd.

“Rwy'n hynod falch o gymryd rhan yn y seremoni arbennig hon sydd wedi'i chynllunio i gydnabod a mynegi diolch i'r aelodau staff hynny sydd wedi cyfrannu llawer o flynyddoedd o wasanaeth ymroddedig.”

Yn ogystal â Mike, cafodd pedwar unigolyn wobr am 40 mlynedd o wasanaeth, 25 o bobl y wobr 30 mlynedd, 22 yn cyflawni 25 mlynedd a’r 128 arall wedi gweithio yn y Brifysgol ers 20 mlynedd neu fwy.

Mae'r Gwobrau Gwasanaeth Hir yn ddigwyddiad blynyddol a sefydlwyd yn 2013. Mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod rhagoriaeth aelodau unigol o staff drwy'r Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr, a fydd yn cael eu cynnal ar 2 Mai.

 

AU15314