Y Gwyll yn darlledu dros y byd

Y Gwyll/Hinterland

Y Gwyll/Hinterland

23 Ebrill 2014

Mae'r ddrama dditectif, Y Gwyll/Hinterland ar fin dychwelyd i'r sgrin ar ddydd Llun 28 Ebrill ar BBC Four, sydd wedi dod yn gartref i ddrama rhyngwladol.

Yn ogystal â chyhoeddi yn ddiweddar y bydd y partneriaid darlledu S4C a BBC Cymru Wales yn dechrau gweithio ar gyfres newydd bum-rhan fis Medi, mae’r cwmni mawr ar-lein Netflix hefyd wedi prynu'r gyfres ar gyfer ei darlledu yng Ngogledd America a Chanada.

Dyma'r cwmni sy'n gyfrifol am lwyddiant sioeau House of Cards ac Orange is the New Black, a'r cawr cyfryngau diweddaraf i'w cysylltu â'r ddrama o Gymru sydd eisoes wedi ei gwerthu i'r darlledwr Daneg DR Denmark,  sydd y tu ôl i gyfres boblogaidd The Killing.

Mae'r gyfres yn dilyn anturiaethau DCI Tom Mathias (Richard Harrington) a'i dîm yn datrys troseddau yng Nghanolbarth Cymru. 

Bydd y gyfres newydd yn cael ei darlledu yn hwyr yn 2014 neu'n gynnar yn 2015 ac fe fydd unwaith eto yn cael ei ffilmio gefn-wrth-gefn yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae Richard Harrington yn dychwelyd i rôl DCI Mathias ac mae'r tîm cynhyrchu yn cynnwys y cyd-grewyr Ed Talfan ac Ed Thomas, a’r cynhyrchydd Gethin Scourfield.

Dywedodd Ed Thomas, Cynhyrchydd Gweithredol gyda chwmni Fiction Factory, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddarllediad y gyfres gyntaf ar BBC Four. Mae’r prosiect yn dathlu talent o Gymru mewn sawl ffordd ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn dychwelyd gydag ail gyfres.” 

Meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd, “O’r dechrau roeddem ni’n gwybod bod Y Gwyll / Hinterland yn mynd i fod yn brosiect arbennig ac mae’n bendant wedi cydio yn nychymyg gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt, ac yn parhau i wneud wrth i’r gyfres gael ei darlledu ar Sianeli eraill. 

“Gyda BBC Cymru Wales yn ymuno â ni fel cyd-gynhyrchwyr ar yr ail gyfres hefyd, gall y gynulleidfa edrych ymlaen at gyfres newydd o Y Gwyll / Hinterland – sy’n golygu mwy o dyndra, cynllwynio a chyfrinachau mewn lleoliad godidog yng Ngheredigion, a rhagor o gliwiau am broblemau a gofidion DCI Mathias, y dyn sydd wrth galon y gyfres afaelgar hon.”

AU15114