Seicolegwyr i drafod canfyddiadau o acenion Cymreig

Y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig

Y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig

25 Ebrill 2014

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Myfyrwyr Cymru y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory, Dydd Sadwrn 26 Ebrill, a bydd myfyrwyr o holl brifysgolion Cymru yn cyflwyno eu gwaith yno.

Gwahoddwyd y myfyrwyr i gyflwyno canfyddiadau eu prosiectau BSc blwyddyn olaf, neu draethodau ymchwil hir MSc, ar ffurf posteri neu bapurau byr.

Eglurodd Gareth Hall, o’r  Athrofa Gwyddorau Dynol; "Bydd myfyrwyr o bob cwr o Gymru yn cyflwyno eu prosiectau ymchwil yn y gynhadledd ac rydym yn falch iawn o'r prosiectau amrywiol ac arloesol y mae myfyrwyr Aberystwyth yn eu cyflwyno.

"Mae un o'n myfyrwyr yn ymchwilio i sut y gallai acenion rhanbarthol Cymru ddylanwadu ar ganfyddiad unigolyn nad ydynt o Gymru o’u hygrededd. Mae’r gwaith yn edrych ar unigolion gydag acenion Cymreig cryfion a'r rhai sydd ag acen Gymreig ysgafn.

"Mae goblygiadau’r gwaith ymchwil hwn, er enghraifft, yn ein galluogi i ddeall pam y gallai acen gref fod yn fantais neu'n rwystr i unigolyn yn ystod cyfweliad am swydd ac mewn cyd-destun gwaith. Nid yw hyn oherwydd unrhyw ragfarn gynhenid, ond yn hytrach tuedd posibl tuag at acenion cliriach sy'n haws eu prosesu yn effeithiol.

“Mae ymchwil arall yn cynnwys dibyniaeth gamblo, profiadau o gerdded mynyddoedd, rôl anfodlonrwydd delwedd y corff, a sut y gall tymheredd ddylanwadu ar ein penderfyniadau i ymateb yn gadarnhaol tuag at rywun.”

Dyfarnwyd achrediad cenedlaethol y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig i Adran Seicoleg y Brifysgol ym mis Mehefin 2013.

Y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig yw'r corff sy’n cynrychioli seicoleg a seicolegwyr yn y Deyrnas Gyfunol ac maent yn gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a chymhwyso seicoleg er lles y cyhoedd.

Bydd cynrychiolaeth gref gan fyfyrwyr Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Aberystwyth yn y gynhadledd.  Am fwy o fanylion , ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/psychology/latest-news/news-article/title-143159-cy.html 

AU16214