Rheolwr Busnes Pwllpeiran

John Davies

John Davies

01 Mai 2014

Mae John Davies wedi cychwyn yn ei swydd fel Rheolwr Busnes Llwyfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

Bydd John yn gyfrifol am sefydlu a rheoli’r ganolfan newydd yn yr ucheldir uwchlaw Aberystwyth yng Ngheredigion.

Cefnogir y Llwyfan Ymchwil gan fuddsoddiad £3.2 miliwn gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol).

Mae John yn hanu o’r ardal. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gyfun Penweddig, Coleg Amaethyddol Gelli Aur a Choleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth. Mae’n byw gyda’i wraig a’i deulu yn Rhydyfelin.

Mae John wedi meithrin cysylltiadau ardderchog gyda’r sector amaethyddol drwy ei swyddi blaenorol gyda’r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yn Nhrawscoed, yna fel swyddog caffael da byw ar ran cwmni cydweithredol da byw, a chyfnod fel gwerthwr eiddo amaethyddol ac Arwerthwr.

Bu’n gweithio i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yng Nghymru fel Ymgynghorydd Polisi am naw mlynedd, a dros y ddeuddeng mlynedd diwethaf bu’n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Fwyd Cymru, yn darparu cymorth technegol arloesol i’r Diwydiant Bwyd-Amaeth yng Nghymru.

Mae John yn gyn Lywydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Cadeirydd Rhwydwaith Gwledig Cymru a Grŵp Bwyd-Amaeth Canolbarth Cymru; mae hefyd yn aelod o bwyllgor monitro’ Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru. Mae’n Gynghorydd Arbennig i Fenter Mynyddoedd Cambria.

Er bod yna ganolfan ymchwil ucheldir yn gwasanaethu’r Alban, Pwllpeiran fydd yr unig ganolfan Ymchwil Ucheldir bwrpasol yng Nghymru a Lloegr. Bydd yn darparu cyfle i ddatblygu catalydd unigryw i ysgogi adnoddau IBERS a darparwyr ymchwil eraill y DG i ddod o hyd i atebion i heriau sydd yn cynnwys:

• Systemau ffermio ecogyfeillgar a fydd yn darparu incwm cynaliadwy i ffermwyr.

• Dulliau o feincnodi prosesau cynhyrchu cynaliadwy a gwerthfawrogi bioamrywiaeth yn yr ucheldir.
• Cadwyni cyflenwi bwyd lleol cynaliadwy sy’n caniatáu olrhain cynnyrch o darddiad hysbys i’w cyflenwi i gwsmeriaid.
• Cynhyrchion â gwerth ychwanegol iddynt sy’n defnyddio datblygiadau cyfredol ym maes gwyddoniaeth i ganiatáu ffermwyr i ddarparu cynnyrch o safon uchel ar gyfer y gadwyn gyflenwi.
• Systemau cynhyrchu anifeiliaid sy’n lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy ymgorffori datblygiadau arloesol cyfoes mewn bwydo, rheoli a geneteg.
• Offer rheoli sy’n caniatáu i amaethyddiaeth yr ucheldir gael ei lunio a’i reoli mewn ffordd sy’n sicrhau buddiannau uchaf posib a chostau, yn ariannol ac yn amgylcheddol, yn cael eu lleihau.
• Sail tystiolaeth i gefnogi datblygu polisïau gwybodus a dilys.

Bu Pwllpeiran yn ganolfan ymchwil ers y 1930au, ac yn gweithio i wella hyfywedd ffermio ucheldiroedd Cymru. 

Gyda phwyslais cynyddol ar ansawdd a tharddiad bwyd, a phwysau i reoli tir mewn modd sy’n sensitif i’r amgylchedd, mae yma rôl allweddol i’r wyddoniaeth i gefnogi amaethyddiaeth.

Dywedodd John Davies; “Rwy’n edrych ymlaen at yr her o ddatblygu Pwllpeiran ac i weithio gyda’m cydweithwyr academaidd a chysylltiadau ledled y sector wrth fynd i’r afael â heriau diogelu cyflenwadau bwyd, lleihau nwyon tŷ gwydr a diogelu bioamrywiaeth drwy wneud defnydd gwybodus a gwell o’r ucheldiroedd.”

Mae’r ucheldiroedd yng Nghymru yn cwmpasu 80,000 hectar, ac mae’r adnoddau naturiol hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol gan gynnwys dŵr, bwyd, tanwydd, dal a storio carbon, cynefinoedd bywyd gwyllt, hafanau bioamrywiaeth, lliniaru llifogydd a mannau hamdden.

Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil gan y BBSRC i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae’n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae IBERS yn gweithio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol, yn datblygu ymchwil arloesol yn y biowyddorau i ganfod atebion i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, clefydau planhigion ac anifeiliaid, a darparu ynni adnewyddadwy a sicrwydd bwyd a dŵr.

 

AU17614