Darganfod siartiau wal botanegol

Dr John Warren, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu IBERS, gydag un o’r siartiau wal

Dr John Warren, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu IBERS, gydag un o’r siartiau wal

09 Mai 2014

Mae darganfyddiad annisgwyl o siartiau wal 120 mlwydd oed wedi’u darlunio â llaw yn un o adeiladau IBERS Prifysgol Aberystwyth ar Gampws Penglais yn amlygu sut y mae dulliau dysgu gwyddoniaeth wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd.

Yn dilyn llifogydd bach yn seler Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) darganfuwyd celc cudd o dros 100 o siartiau wal sy’n cynnwys darluniau prydferth o blanhigion ac anifeiliaid - a chredir bod rhai ohonynt o werth ariannol sylweddol.

Dywedodd Dr John Warren, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu IBERS: “Roedd natur gywrain y darluniau hyn yn galluogi darlithwyr yr 1800au i ennyn diddordeb eu myfyrwyr mewn ffordd wahanol iawn i’r ffordd yr ydym yn eu dysgu heddiw. Y rhain oedd PowerPoint y cyfnod i bob pwrpas. Rydym yn falch iawn bod y gweithiau hyn wedi dod i’r amlwg - mae eu cynnwys a’u harwyddocâd gwyddonol yn bwysicach o lawer nag unrhyw ystyriaethau ariannol”.

Cynhyrchwyd siartiau wal addysgiadol yn yr 1800au cynnar i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Fe’u cynhyrchwyd ar ffurf fach yn wreiddiol, ac roeddent yn darlunio golygfeydd a gwrthrychau syml i’w defnyddio wrth ddysgu mewn ysgolion cynradd. Byddai’r siartiau wal yn cael eu cynhyrchu a’u gwerthu mewn niferoedd mawr, nid yn unig i ysgolion cynradd ond i sefydliadau addysg uwch hefyd.

Cyfrannodd nifer o ffactorau at y defnydd o’r siartiau hyn. Dyfeisiwyd lithograffeg tua diwedd y 1700au, ac roedd hyn yn golygu bod modd cynhyrchu printiau lliw mawr am bris rhesymol. 

Yn yr Almaen yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, diwygiwyd y system addysg yn sylweddol. Yn 1852, roedd gan bob athro 136 o fyfyrwyr yn ei ystafell ddosbarth ar gyfartaledd. Roedd yn anodd pasio ysgythriadau o amgylch y dosbarth, a bron yn amhosibl i ddangos gwrthrychau i fyfyrwyr drwy’r microsgop.

Roedd modd gweld darluniau mawr ar y wal o bob cornel o’r dosbarth, ac fe ddaethant yn boblogaidd ymhlith athrawon. Mae Botanische Wandtafeln, neu Siartiau Wal Botangeol, yn dangos manylion anatomegol a morffolegol planhigion.

Bydd detholiad o’r siartiau wal hyn yn cael eu harddangos yn ystod y Diwrnod Chwilfrydedd mewn Planhigion, a drefnir gan IBERS, ar ddydd Sadwrn 17 Mai rhwng 9.30 – 12.30 y tu allan i theatr Canolfan y Celfyddydau.

Bydd modd i ymwelwyr weld a thrafod y gwahaniaeth rhwng y dulliau dysgu a ddefnyddiwyd bryd hynny a’r rhai a ddefnyddir heddiw, a bydd modd i blant roi cynnig ar wneud eu gemwaith eu hunain o blastig a wnaed o blanhigion.

Yn ogystal â hyn, bydd cyfle i ddysgu rhagor am Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol unigryw IBERS yng Ngogerddan, a pham bod gan y porfeydd a’r ceirch a fridir ac a ddatblygir gan IBERS enw ardderchog am fod gyda’r gorau yn y byd. 

 

AU20014