Adnoddau Dynol ar gyfer y busnes modern

Fiona Roberts, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Volkswagen Group UK Cyf

Fiona Roberts, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Volkswagen Group UK Cyf

15 Mai 2014

Mae Rhwydwaith Busnes Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Fiona Roberts, Cyfarwyddwr AD Volkswagen Group UK Ltd fel y prif siaradwr mewn digwyddiad a gynhelir ar ddydd Llun 19 Mai o 5.30yp ymlaen.  

Bydd y digwyddiad, sy’n rhad ac am ddim ac wedi’i ailwampio ar gyfer haf 2014, yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio proffesiynol a chyflwyniad i ysgogi’r meddwl ar y thema ‘HR for the Modern Business'.    

Bydd y ffair fusnes, sy’n rhan o’r digwyddiad, yn cynnwys cyfle i gael gwybod rhagor am yr arbenigedd, y gwasanaethau a’r cynlluniau cyllido sydd ar gael drwy’r Brifysgol a sefydliadau allanol eraill.

Wrth drafod y digwyddiad, dywedodd Gary Reed, Cyfarwyddwr yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi, "Mae hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad rhwydweithio addysgiadol, a fydd yn cynnig cyngor ymarfereol ynglŷn â rheoli adnoddau dynol eich sefydliad. Rydym yn gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni.”

Nifer cyfyngedig o leoedd; am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i www.aber.ac.uk/cy/ccs/network/

Neu, i siarad ag aelod o’r tîm Datblygu Busnes, cysylltwch â'r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi, Prifysgol Aberystwyth (busnes@aber.ac.uk / 01970 622385).

AU21414