A yw Al Qaeda yn ennill?

Owen Bennett-Jones

Owen Bennett-Jones

30 Mai 2014

Ar ddydd Gwener 30 Mai , bydd y Ganolfan Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol Astudiaethau (CIISS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn croesawu’r newyddiadurwr llawrydd a chyn-ohebydd y BBC, Owen Bennett-Jones, i draddodi ei Darlith Flynyddol.

Mae'r ddarlith, ar y pwnc ‘A yw'r Al Qaeda ennill?’ yn cael ei chynnal am 6pm ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac mae croeso cynnes i bawb.

Mae Owen Bennett-Jones, sy'n cyflwyno Newshour ar y BBC World Service, wedi adrodd ar gyfer y BBC o dros 60 o wledydd, ac wedi bod yn ohebydd tramor ac yn byw yn Islamabad, Bucharest, Hanoi, Beirut a Genefa.

Mae wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o bapurau newydd Prydain, gan gynnwys The Guardian, Financial Times a The Independent, yn ogystal â’r London Review of Books. Yn 2010 cafwyd trydydd argraffiad o’i lyfr hanes Pakistan: Eye of the Storm. Y llynedd, cyhoeddodd Owen Bennett-Jones ei nofel gyntaf, Target Britain, nofel gyffrous sydd wedi ei gosod yng nghanol y rhyfel yn erbyn terfysgaeth.

Yn 2008 ef oedd Newyddiadurwr y Flwyddyn Sony ac yn 2009 enillodd wobr  y Newyddiadurwr y Flwyddyn y Gymanwlad. Yn 2012 ef oedd Athro Ferris mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Princeton.

Dywedodd Dr R Gerald Hughes, Cyfarwyddwr y CIISS; “Rydym wrth ein bodd fod Owen Bennett-Jones wedi derbyn ein gwahoddiad i gyflwyno’r ddarlith flynyddol eleni. Dyma'r ddegfed ddarlith yn y gyfres ac, yn sgil traddodi Darlith Flynyddol CIISS, mae Owen Bennett-Jones yn ymuno â rhestr o enwogion sy'n cynnwys Syr Stephen Lander, yr Athro Keith Jeffery, Syr Michael Quinlan, Syr David Omand, y Farwnes Eliza Manningham-Buller, Lord (Robin) Butler, Lord (George) Robertson a'r Arglwydd (Peter) Hennessy.”

Mae'r CIISS wedi'i leoli yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac fe'i sefydlwyd yn 2004 i hwyluso a hybu astudio cudd-wybodaeth a diogelwch rhyngwladol trwy weithredu fel cnewyllyn ar gyfer ymchwil yn y maes. Roedd creu'r ganolfan yn adeiladu ar dros ddegawd o addysgu mewn astudiaethau cudd-wybodaeth yn yr adran ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

AU23214