Adeiladu cysylltiadau ag Iwerddon

Yr Athro John Grattan, yr ail o’r dde ar ei eistedd, ynghyd ag aelodau o staff a bwrdd rheoli Coleg Galwediaethaol Cymunedol Enniscorthy, yn y seremoni arwyddo gafodd ei chynnal yng Nghastell Enniscorthy. Yn sefyll yn union y tu ôl i’r Athro Grattan mae Gweinidog y Wladwriaeth Paul Kehoe.

Yr Athro John Grattan, yr ail o’r dde ar ei eistedd, ynghyd ag aelodau o staff a bwrdd rheoli Coleg Galwediaethaol Cymunedol Enniscorthy, yn y seremoni arwyddo gafodd ei chynnal yng Nghastell Enniscorthy. Yn sefyll yn union y tu ôl i’r Athro Grattan mae Gweinidog y Wladwriaeth Paul Kehoe.

04 Mehefin 2014

Prifysgol Aberystwyth wedi arwyddo cytundeb llwybr newydd efo Coleg Galwedigaethol Enniscorthy, Swydd Wexford, Iwerddon.

Mae'r cytundeb newydd yn adeiladu ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan y ddau sefydliad ym mis Mehefin 2012.

Bu cysylltiad rhwng Cwrs Cynhyrchu Cyfryngau PLC yn Enniscorthy ag Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers nifer o flynyddoedd.

Mae'r Cytundeb Llwybr newydd yn ehangach ac yn cynnwys Chwaraeon a Hamdden, Gwyddoniaeth ac Astudiaethau Cyfreithiol ac yn cynnig gwarant lle i fyfyrwyr  Coleg Galwedigaethol Enniscorthy ym Mhrifysgol Aberystwyth, unwaith y byddant yn bodloni'r meini prawf y cytunwyd arnynt.

Liam Sharkey, tiwtor ar y cwrs PLC Cyfryngau a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth fu’n am sefydllur cyswylltiad yn 2000.

Ers hynny, mae dros 70 o fyfyrwyr wedi mynd drwy'r system a bydd y cytundeb newydd yn golygu cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n parhau â'u haddysg yn Aberystwyth.

Ymunodd Yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Dr Nick Strong o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gyda chyn-fyfyrwyr, Myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol, ynghyd ag aelodau staff a Bwrdd Rheoli Coleg Galwedigaethol Enniscorthy ar gyfer y seremoni arwyddo a gynhaliwyd yng Nghastell Enniscorthy ar ddydd Gwener 30 Mai, 2014.

Hefyd yn bresennol yr oedd Eilis Leddy o Bwyllgor Addysg Galwedigaethol Swydd Wexford, John Browne TD a'r Gweinidog Gwladol Paul Kehoe.

Croesawodd yr Athro John Grattan y cytundeb. "Mae perthynas waith rhagorol yn bodoli rhwng Prifysgol Aberystwyth a Choleg Galwedigaethol Enniscorthy, un sy'n darparu dilyniant clir i fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn eu hastudiaethau hyd at safon gradd. Mae'n arbennig o braf i allu ehangu meysydd y cydweithredu a darparu cyfleoedd newydd cyffrous i astudio Chwaraeon a Hamdden, Gwyddoniaeth ac Astudiaethau Cyfreithiol. Gyda myfyrwyr o 98 o wledydd o bob cwr o'r byd, mae Aberystwyth yn brifysgol wirioneddol gosmopolitan sy'n cynnig un o'r profiadau myfyrwyr gorau yn y byd."

 

AU23714