Argraffu robot 3D

Marley Plant (chwith) a Ferdia McKeogh o Glwb Roboteg Aberystwyth gyda’r robot InMoov dynolaidd sy’n cael ei argraffu ar hyn o bryd.

Marley Plant (chwith) a Ferdia McKeogh o Glwb Roboteg Aberystwyth gyda’r robot InMoov dynolaidd sy’n cael ei argraffu ar hyn o bryd.

06 Mehefin 2014

Darn wrth ddarn, mae robot, lle mae ei gydrannau’n gallu cael eu ‘printio’ gan ddefnyddio argraffydd 3D, yn dod yn realiti mewn labordy ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Y technegydd, Stephen Fearn, o Athrofa Fathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol sy’n gyfrifol am y gwaith, ac InMoov fydd y dynolyn cyntaf o faint person yng ngorllewin Cymru, a bydd yn cyfarfod â’r cyhoedd am y tro cyntaf yn Lab y Traeth ar y Bandstand yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 21 Mehefin.

Mae Lab y Traeth yn rhan o ddiwrnod agored cymunedol Prifysgol Aberystwyth, ‘Mynediad am Ddim’,  rhwng 10am a 3pm ddydd Sadwrn 21 Mehefin. Yn ogystal bydd rhaglen lawn o weithgareddau yn yr Hen Goleg, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol.

Mae darnau’r corff wedi eu gwneud o ddarnau plastig Polylactide (PLA) wedi’u printio, ac mae’r thermoplastig yn hyblyg wrth iddo gael ei gynhesu ac yna’n caledu wrth oeri. Ar gyfer argraffu 3D, caiff y plastig ei wthio drwy drwyn cynnes yr argraffydd 3D, sy’n adeiladu’r siapiau’n araf bach mewn haenau tenau o linynnau plastig meddal. Mae’n broses ryfeddol sydd bellach yn dod yn fwy cyffredin.

Caiff y darnau sydd wedi eu hargraffu eu rhoi at ei gilydd ynghyd â micro-reolwyr (Arduinos) a motorau (servos). Mae’r robot cod agored yn ymgorffori caledwedd sydd eisoes ar gael, ac felly mae hyn yn lleihau’r gost i lai na mil o bunnoedd - pris gwych o’i gymharu â robotiaid ymchwil eraill sy’n costio dros chwarter miliwn o bunnoedd i’w prynu. Mae cymalau InMoov yn symud mor llyfn â chymalau pobl. Ar y dechrau mae’r robot yn dangos symudiadau syml, ond gydag amser bydd yn gallu  tracio drwy weld (bydd ei lygaid yn gallu dilyn gwrthrychau) yn ogystal ag adnabod sain.

Mae Steve yn dechnegydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 35 mlynedd, a thaniwyd ei ddiddordeb mewn robotiaid wrth gystadlu yn ‘Robot Wars’ yn 2000, ac ers hynny mae wedi sylweddoli mai ei hoff gymeriadau ffuglen wyddonol oedd y Daleks a K9.

Bydd creadigaeth ddiweddaraf Steve, R2D2, hefyd yn ymddangos ar Stondin y Band yn Aberystwyth.

Mae gan Steve ddiddordeb ysol mewn creu pethau. Mae’n esiampl wych i ddysgwyr eraill, ac mae wedi ennill nifer o anrhydeddau. Cafodd ganmoliaeth fawr am ei gyfraniad i Staff Cefnogi’r Flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013 ac yn 2014. Eleni enillodd gymeradwyaeth arbennig yng Ngwobrau’r Awdurdod Addysg Uwch Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (HEA STEM) fel Technegydd y Flwyddyn.

Mae Steve wedi bod yn gefnogwr amhrisiadwy i’r grŵp Technocamps lleol ym Mhrifysgol Aberystwyth, project sy’n cael ei ariannu gan Ewrop gyda’r bwriad o ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu’u sgiliau cyfrifiadurol y tu hwnt i’r sgrin a’r bysellfwrdd arferol.

Mae’r grŵp Technocamps yma wedi cyfarfod â thua 1,000 o bobl yn yr ardal, gan gyflwyno ystod o bynciau i bobl 11 i 19 oed i’w hannog i fod yn gynhyrchwyr technoleg, nid yn ddefnyddwyr technoleg yn unig.

Steve sy'n cynnal clwb ARC (Aberystwyth Robotics Club) ar gyfer robotwyr ifanc brwdfrydig, sef clwb ar ôl ysgol i ddisgyblion sy’n mynd i ysgolion uwchradd lleol Penweddig a Phenglais, ynghyd â’r rhai sy’n cael addysg gartref. O’r labordy Ffiseg mae Steve yn helpu pobl ifanc i adeiladu a rhaglennu.

Fel person technegol brwdfrydig ei hunan, mae Steve yn awyddus i gyfleu wrth bobl ifanc mor hawdd yw hi iddyn nhw gymryd rhan mewn technoleg: “Dydy hyn ddim yn anodd ei ddeall. Gall pobl ifanc greu a rhaglennu robotiaid a mwynhau dysgu wrth iddyn nhw wneud hynny. Yn y clwb maen nhw’n rhaglennu InMoov ynghyd â datblygu eu creadigaethau penodol, rhyfeddol eu hunain sy’n gallu hedfa, arnofio a gleidio, gan gynnwys: cwadcopter; creadur sy'n robot deudroed; robot ymladdgar o’r enw ‘Mini Infinity’ (a ddaeth yn ail ym Mhencampwriaethau ‘Robot Wars’ yn gynharach eleni); corryn cwad - ie, creadur pedair troed; robot brwsh; a chreadur sy’n crwydro creigiau. Mae’r holl greadigaethau hyn wedi’u cynllunio a’u creu gan y bobl ifanc yn y clwb. Mae’n wych eu gweld yn datblygu eu sgiliau, eu deall a’u diddordeb mewn cyfrifiadureg a pheirianneg drwy ddilyn eu hymchwiliadau eu hunain a chael hwyl. Rydyn ni hefyd yn ffodus i gael grŵp bywiog o staff gwirfoddol, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil israddedig sydd hefyd yn awyddus i weld pobl ifanc yn dysgu wrth iddyn nhw greu.

Bydd robotiaid fel InMoov a R2D2 ynghyd â chreadigaethau digidol eraill ac argraffwyr 3D i'w gweld yn Lab y Traeth, digwyddiad cyhoeddus am ddim ar Stondin y Banc yn Aberystwyth, ar y promenâd a’r traeth o 11am i 3pm ddydd Sadwrn 21 Mehefin.

Bydd y digwyddiad un diwrnod yn agored i bawb sy’n awyddus i brofi technoleg yn yr awyr agored gyda barcutiaid sy’n hedfan (a chamerâu arnynt), robotiaid daear, technoleg i’w gwisgo, cyfrifiaduron Raspberry Pi, Arduinos, printio 3D, aps ffonau symudol, a llawer mwy.

Am ragor o fanylion am Lab y Traeth, y Gwersylloedd Technoleg (Technocamps) ewch i http://beachlab2014.eventbrite.co.uk neu cysylltwch â swyddfa Technocamps ar 01970 622454/ aber@technocamps.com.

InMoov
Ffeil 3D am ddim (ffynhonnell agored) yw InMoov i’w lawrlwytho gyda chyfarwyddiadau, wedi’i chreu gan y cerflunydd Ffrengig Gael Langevin - http://www.inmoov.fr .

Project gwerth £6 miliwn sy’n cael ei ariannu gan gronfa ESF Llywodraeth Cymru yw Technocamps. Mae’n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth gyda Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg. Mae’n cynnig sesiynau dyddiol ac wythnosol i bobl ifanc rhwng 11-19 oed ar ystod o bynciau cyffrous yn seiliedig ar gyfrifiaduron, fel rhaglennu, robotiaid, cryptograffeg, animeiddio a llawer mwy.

Mae rhaglenni Cronfa Strwythurol 2007-2013 gwerth £3.2bn yng Nghymru yn cynnwys y rhaglenni Cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (olynydd Amcan 1), a’r rhaglenni rhanbarthol Cystadleuaeth a Chyflogaeth ar gyfer Dwyrain Cymru. Caiff y rhaglenni eu darparu drwy Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o greu cyfleoedd cyflogaeth a hybu twf economaidd.

Mynediad am Ddim
Diwrnod agored i’r gymuned Prifysgol Aberystwyth yw Mynediad am Ddim Prifysgol Aberystwyth sy’n cael ei gynnal rhwng 10.30 y bore a 3 y prynhawn ar ddydd Sadwrn 21 Mehefin. Mae rhaglen lawn o weithgareddau yn y Bandstand, yr Hen Goleg, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol. Ceir mwy o wybodaeth ar lein yma http://www.aber.ac.uk/cy/events/access-all-areas/

 

AU22814