Cadair Rendel newydd

Yr Athro Sarah Prescott

Yr Athro Sarah Prescott

06 Mehefin 2014

Penodwyd yr Athro Sarah Prescott, Cyfarwyddwr yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol i Gadair Rendel mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.

Cyflwynwyd Cadair Rendel i’r Brifysgol yn 1914 er cof am y Barwn Stuart Rendel (1834-1913). Yn ddiwydiannwr, Aelod Seneddol a dyngarwr, chwaraeodd y Barwn Rendel ran amlwg wrth hyrwyddo buddiannau Cymru, yn enwedig mewn cysylltiad â Deddf Addysg Ganolradd Cymru 1889.

Roedd y Barwn Rendel yn Llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1895 tan ei farwolaeth. Ym 1897 prynodd y tir yn Grogytha, Aberystwyth, ac fe’i cyflwynodd yn safle ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Sarah Prescott, Athro mewn Llenyddiaeth Saesneg yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yn raddedig o Brifysgolion Caerwysg ac Efrog. Mae'n arbenigo mewn llenyddiaeth yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, ysgrifennu menywod, ac ysgrifennu Cymreig cyn 1800 yn y Saesneg.

Yn ogystal â nifer o erthyglau a phenodau yn ei maes, hi yw awdur Women, Authorship and Literary Culture, 1690-1740 (2003), Women and Poetry, 1660-1750 (2003), Eighteenth-Century Writing from Wales: Bards and Britons (2008) a Writing Wales from the Renaissance to Romanticism (2012)

Ar hyn o bryd mae'n cwblhau llyfr sy’n cael ei ariannu gan yr Academi Brydeinig, Women Writers and Wales, 1600-1800, a chyfrol ar gyfer The Oxford Literary History of Wales.

Yr Athro Prescott yw Prif Ymchwilydd prosiect tair blynedd ar y cyd gydag Adran Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth; Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, sy’n cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.Testun y prosiect yw 'Barddoniaeth Menywod 1400 -1800 o Iwerddon, Cymru a'r Alban yng Ngwyddeleg, Saesneg, Sgoteg, Gaeleg yr Alban, a Chymraeg'.

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Prescott: "Mae'n gryn anrhydedd i mi gael fy mhenodi i Gadair Rendel ym Mhrifysgol Aberystwyth ac rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r traddodiad o ragoriaeth mewn ymchwil y mae'r Gadair yn ei gynrychioli ac yn ei gefnogi. Mae etifeddiaeth Cadair Rendel ym maes y Saesneg yn un sylweddol iawn ac mae'n arbennig o briodol bod diddordeb y Barwn Rendel yng Nghymru a’i diwylliant hefyd yn ganolbwynt i fy ymchwil i."

Wrth groesawu ei phenodiad, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwy'n llongyfarch Sarah ar ei phenodiad i'r Gadair bwysig hon yn y Brifysgol. Mae gan y Gadair Rendel hanes o fri, ac yr wyf yn siŵr y bydd Sarah yn cyflawni’r hyn sydd ei angen er mwyn cwrdd â’r disgwyliadau uchel, ac yn parhau i gynhyrchu ymchwil o bwys o fewn ei maes. Dymunaf bob llwyddiant iddi yn y rôl y mae'n ymgymryd â hi, ochr yn ochr â'i rôl fel Cyfarwyddwr Athrofa.”

 

AU25114