Dathlu Wythnos y Prifysgolion

Marged Pendrell, 'Llestr: tir a môr'

Marged Pendrell, 'Llestr: tir a môr'

09 Mehefin 2014

Mae llwybr celf “Celfyddyd a Gwyddor Ansawdd Bywyd yn rhan o ddathliadau Prifysgol Aberystwyth o Wythnos y Prifysgolion 2014 sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon; 9-15 Mehefin.

Datblygwyd y llwybr celf gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rhaglen wythnos o weithgareddau sy’n dod â gwahanol elfennau o waith sefydliadau lleol ynghyd i ddangos sut mae Hanes a Chof, Celf a Symud ac Iechyd a Chymdeithas Ddynol i gyd yn dod at ei gilydd i greu dathliad cyfoethog ac atyniadol o waith a brwdfrydedd y bobl sy’n byw a ffynnu yng Ngheredigion.

Mae Oriel Ysgol Gelf Aberystwyth yn nodi Wythnos y Prifysgolion gydag arddangosfa drwy’r wythnos, darlith, sgwrs yn yr oriel, arddangosiad print, y cyfan yn rhad ac am ddim ac yn cynnig cip ar y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ar gasgliad pwysig o brintiadau’r Brifysgol sy’n dyddio o’r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. 

Nod Wythnos y Prifysgolion yw pwysleisio sut y mae prifysgolion yn cyfoethogi bywydau pawb, hyd yn oed os nad yw person wedi bod i Brifysgol ei hunan.

Yn ystod yr wythnos benodedig hon mae sefydliadau addysg uwch o bob cwr o’r Deyrnas Gyfunol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgaredd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn arddangos y gwaith eithriadol y mae prifysgolion yn ei wneud, gwaith a all newid bywydau.

Ceir mwy o wybodaeth am Wythnos y Prifysgolion 2014 ar y wefan. Ymunwch yn y drafodaeth ar lein am bwysicrwydd prifysgolion ar Facebook  a Twitter @Uni_Week / #UniWeek

Llwybr Celf – “Celfyddyd a Gwyddor Ansawdd Bywyd

1 ‘Cyfathrebu’
Drwy’r wythnos
Ystafell Addysg, y Llyfrgell Genedlaethol
Arddangosfa o weithiau celf, ffotograffig yn bennaf, a grëwyd gan fyfyrwyr Plas Lluest. Seilir y gwaith ar ymatebion personol pob unigolyn i arddangosfa a gynhaliwyd y llynedd ym mhrif oriel y Llyfrgell o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell yn ymwneud â chyfathrebu.

2 Celf Van Gogh gan blant Ysgolion Cynradd
Drwy’r wythnos
Ystafell Addysg, y Llyfrgell Genedlaethol
Cafodd sesiwn dysgu am yr arluanydd Van Gogh effaith gadarnhaol ar ddysgu a gwaith ysgol y plant. Dyma gyfle i ddangos y llwyddiant a gafodd y Llyfrgell â’i phrosiect ‘Turner ar Daith’ a ddefnyddiai gelf yn gyfrwng i gyfoethogi’r dysgu mewn ysgolion.

3 Drwy lygad y claf...
Drwy’r wythnos
Y Ffreutur, Ysbyty Bronglais
Darluniau o brofiad gweledol llawdriniaeth ar gataractau fel y’i darluniwyd gan arlunwyr sydd wedi cael y llawdriniaeth. Mae’r paentiadau yn dangos sut mae’r olwg yn gwella ar ôl y llawdriniaeth yn ogystal â phrofiad arlunwyr lliwddall.

4 Coedwig a Bryn, Fferm a Maes: Celf wedi’r Drin
Drwy’r wythnos
Yr Ysgol Gelf
Yn aml mae themâu, cyfryngau a dulliau’r printiau a’r lluniau a wnaed rhwng y rhyfeloedd yn cael eu dehongli fel ymateb i effeithiau enbyd y Rhyfel Byd Cyntaf, fel gwrthsafiad yn erbyn moderniaeth ac ymdrech i ddychwelyd i draddodiadau a welid yn hynafol a chysurlon. Bydd yr arddangosfa hon yn ystyried y dybiaeth honno a’i herio.

5 Arddangosfeydd:
Drwy'r wythnos
Yr Oriel Nwy
Marged Pendrell, ‘Llestr: tir a môr’
Tjibbe Hooghiemstra, Paentiadau, ‘Sandy Island’

6 “The artistic genius of Van Gogh”
Dydd Mawrth 10 Mehefin, 12.30pm
Dydd Iau 12 Mehefin, 7.00pm, Darlith
Drwm y Llyfrgell Genedlaethol

7 ManVan Tenovus
Dydd Mawrth 10 Mehefin. Bydd y fan yn parcio ger Canolfan y Celfyddydau
Yn cynnig cwnsela i unigolion neu gwplau, cefnogaeth grwpiau, a chyngor am hawliau budd-daliadau i ddynion sy’n byw gyda chanser y prostad neu’r ceilliau, a dynion y mae’r canserau hyn wedi effeithio arnynt. http://www.tenovus.org.uk/manvan

8 Posteri a Chyflwyniad – “Diagnosing prostate cancer: Ultrasound and magnetic resonance imaging”
Dydd Mawrth, 10 Mehefin, 11.00am–3.00pm
Canolfan y Celfyddydau

9 Dosbarthiadau therapi celf – “Dementia in imagination”
Dydd Mawrth, 10 Mehefin, 10.00am–11.30pm
Dydd Gwener, 13 Mehefin, 2.00pm–3.30pm
Llyfrgell Gyhoeddus Aberystwyth
Gweithdy crefft creadigol i bobl â dementia arnynt.
I archebu, cysylltwch â Sally Corlett – Symudol: 07810 505 117
Ffôn: 01970 635 369. Ar gael i ateb galwadau o 8am tan 5pm.

10 Mâs yn y Dre
Dydd Mercher 11 Mehefin, 1.00pm–2.00pm
Amgueddfa Ceredigion
Cyflwyniad Amser Cinio am hel atgofion gyda chyfle i gael cip ar ein blychau darganfod ‘retro’ newydd. Daeth amser hamdden yn rhan hanfodol o’n bywydau ni i gyd ac yn aml ein hatgofion o fynd ‘Mâs yn y Dre’ yw’r rhai sy’n aros gyda ni hiraf.

11 Profiad Trydan-feddygol Fictoraidd yr Athro Marmaduke Salt
Dydd Iau 12 Mehefin, 1.00pm (30 munud)
Amgueddfa Ceredigion
Credai llawer o bobl Oes Fictoria mai trydan oedd sylwedd hanfod bywyd ac mai rhyw faith o beiriant trydanol oedd y corff dynol. Yn y digwyddiad hwn fe deithiwch yn ôl i’r 1890au i glywed y hybarch Athro Salt yn esbonio’r cyswllt rhwng trydan ac iechyd - gydag arddangosiadau ymarferol.

12 Cyrff Ystwyth ‘Y Dyddiau a Fu’
Dydd Iau 12 Mehefin, 7.30pm
Dydd Gwener 13 Mehefin, 7.30pm
Stiwdio Emily Davies, Adeilad Parry Williams
Cyrff Ystwyth yn cyflwyno ‘Y Dyddiau a Fu’:
Darn personol sy’n adlewyrchu nifer o wahanol ddylanwadau yw’r theatr ddawns hon. O blith themâu sylfaenol y gwaith mae harddwch, cariad ac antur tyfu mewn bro benodol a theulu penodol. Mae Cyrff Ystwyth yn creu gwaith theatr ddawns gan bobl sydd ag anableddau dysgu, gwaith sy’n cyfrannu at waith ymchwil yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

I archebu, cysylltwch â:Margaret Ames.

Am fwy o wybodaeth parthed y Llwybr Celf cysylltwch â Jo Strong, Athrofa Gwyddorau Dynol, Prifysgol Aberystwyth 01970 621949 / jgs@aber.ac.uk

Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth

Mae Oriel Ysgol Gelf Aberystwyth yn nodi Wythnos y Prifysgolion gydag arddangosfa drwy’r wythnos, darlith, sgwrs yn yr oriel, arddangosiad print, y cyfan yn rhad ac am ddim ac yn cynnig ci par y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ar gasgliad pwysig o brintiadau’r Brifysgol sy’n dyddio o’r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd.

Arddangosfa o brintiadau a darluniau pwysig o’r 1920au gan Graham Sutherland, Paul Drury a William Larkins a sgwrs oriel gan Phil Garratt o'r Ysgol Gelf ar ddydd Mercher 11 Mehefin am 1.20pm.

Ar yr un diwrnod (Dydd Mercher 11 Mehefin), sgwrs ac arddagnosiad ysgythru gan ddefnyddio plât copor o’r 1920au gyda thiwtor y stiwdio Andrew Baldwin am 2 o’r gloch y prynhawn a fydd yn darlunio golygfeydd brwydr o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar ddydd Iau 12 Mehefin am 7 o’r gloch yr hwyr, darlith gan Jen Loffman, Cynorthwyydd Arddangosfeydd a raddiodd yn ddiweddar o’r Ysgol Gelf, ar waith Edward Bouverie Hoyton (1900-1988).

 

AU24214