Llyfr y Flwyddyn 2014

The Shape of a Forest gan Jemma King

The Shape of a Forest gan Jemma King

11 Mehefin 2014

Mae Jemma King, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau SaesnegLlyfr y Flwyddyn 2014 gyda’i chasgliad cyntaf o farddoniaeth.

Mae The Shape of a Forest yn gasgliad o farddoniaeth sy'n amrywio o ran pwnc. Mae'n arolwg o fywyd a phrofiad dynol sy'n rhychwantu canrifoedd a chyfandiroedd.

Lle mae goleuni yn y farddoniaeth, tywyllwch yw ei gydymaith agos a hunllefus, a lle mae bywyd, mae marwolaeth yn cnoi ei sodlau mewn delweddaeth amrwd a synhwyrus.

Myfyriwr PhD cyfredol arall o Aberystwyth yw Tyler Keevil. Mae ei ail nofel, The Drive, wedi gwneud rhestr fer y categori ffuglen Saesneg ac wedi’i enwebu ochr yn ochr â chyn-fyfyriwr arall o Aberystwyth, Francesca Rhydderch gyda The Rice Paper Diaries, a Tessa Hadley gyda Clever Girl.

Mae’r cyn-fyfyriwr Meic Stephens, wedi ei gynnwys ar y rhestr fer yn y categori Ffeithiol Creadigol am ei hunangofiant o Rhys Davies,A Writer’s Life.

Bydd y Gwobrau yn cael ei gyflwyno i’r gweithiau gorau Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd gyntaf yn 2013 yn y meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Creadigol.

Bydd enillydd y categori Barddoniaeth yn derbyn Gwobr Roland Mathias am Farddoniaeth.

Bydd y Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2014 yn cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon ar ddydd Iau 10 Gorffennaf. Mae'r wobr yn cael ei gweinyddu gan Llenyddiaeth Cymru.

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2014 (Saesneg);

Rhestr Fer Gwobr Barddoniaeth Roland Mathias:
Barkin!, Mike Jenkins (Gwasg Carreg Gwalch)
The Shape of a Forest, Jemma L. King (Parthian Books)
Pink Mist, Owen Sheers (Faber and Faber)
Rhestr Fer Ffuglen:
Clever Girl, Tessa Hadley (Jonathan Cape)
The Drive, Tyler Keevil (Myriad Editions)
The Rice Paper Diaries, Francesca Rhydderch (Seren)

Rhestr Fer Ffeithiol Creadigol:
Rhys Davies: A Writer’s Life, Meic Stephens (Parthian Books)
R. S. Thomas: Serial Obsessive, M. Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru)
And Neither Have I Wings to Fly, Thelma Wheatley (Inanna Publications)

 

AU22414