Mynediad Am Ddim 2014

Myneidad Am Ddim

Myneidad Am Ddim

17 Mehefin 2014

Cyfle i weld coeden banana, cwrdd â robot humanoid, derbyn hyfforddiant ffitrwydd personol am ddim a darllen y newyddion ar y teledu, dyma rai yn unig o’r atyniadau yn ystod Mynediad Am Ddim, diwrnod agored i’r gymuned Prifysgol Aberystwyth, sy’n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 21 Mehefin.

Bellach yn ei ail flwyddyn, mae Mynediad Am Ddim yn cynnig rhaglen amrywiol a chyffrous o weithgareddau mewn chwe lleoliad; Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (Adeilad Parry-Williams), Canolfan Chwaraeon y Brifysgol a'r Gerddi Botaneg ar gampws Penglais, a'r Hen Goleg a'r Bandstand yn y dref.

Ac i’r rhai sy'n dymuno ymweld â  champws Penglais a’r dref, bydd modd teithio am ddim ar y gwasanaeth bws 03 sy'n rhedeg yn rheolaidd rhwng y Brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol a'r dref.

Yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, bydd cyfle i ymwelwyr drafod seicoleg twyll, cyfarfod â marsiandwr o’r oesoedd canol a gwyddonydd o oes Fictoraidd, dehongli a datgodio negeseuon er mwyn dod o hyd i drysor cudd, trafod y cysyniad ‘nuclear zero’, astudio mapiau anhygoel a llawer mwy.

Bydd Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn cynnig sesiynau blasu am ddim, gan gynnwys Bodyfit, Pilates, Zumba a sesiynau hyfforddiant personol.

Yn y Gerddi Botaneg, sydd ar draws y ffordd o brif fynedfa Campws Penglais, mi fydd cyfle i weld rhywogaethau rhyfedd a rhyfeddol, gan gynnwys planhigion cigysol sy'n bwydo ar bryfed, y perlys mwyaf sy’n blodeuo - banana, a phlanhigion cocoa a choffi.

Bydd Yr Hen Goleg hefyd ar agor, gyda theithiau tywys am ddim o'r adeilad a adeiladwyd yn wreiddiol fel gwesty, a chyfle i ymweld â stiwdio’r artist adnabyddus Mary Lloyd Jones.

Ac, yn y Bandstand ar y Prom, bydd un o robotiaid humanoid cyntaf Cymru  sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio technoleg 3D, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Labordy’r Traeth, gweithdy roboteg Technocamps.

Yn ystod y dydd cynigir nifer o weithdai gan gynnwys, Profiad Darllenydd Newyddion Teledu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (Adeilad Parry-Williams), ysgrifennu eich enw drwy ddefnyddio llythrennau Tseiniaidd (Canolfan y Celfyddydau), a Bibliotherapi - darllen fel therapi mewn cyfnod anodd (Adeilad Parry-Williams).

Ceir cerddoriaeth fyw gan Ny Ako Madagascan Music Group ac Ensemble Pres Aberystwyth, a bydd cyfle i ymweld â stiwdios Artistiaid Preswyl Canolfan y Celfyddydau, Anna Falcini a Gerald Soworka.

Dywedodd yr Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon; “Mae’n bleser gennym gynnal Mynediad Am Ddim unwaith eto eleni, digwyddiad a fu’n gymaint o lwyddiant llynedd.

“Mae'n gyfle i ddangos i'r gymuned leol rhywfaint o'r gwaith cyffrous sy'n digwydd yn Aberystwyth, ond yn bwysicach, mae'n gyfle i ddod i adnabod ein cymuned ychydig yn well.

“Rydym yn awyddus i annog pobl i fanteisio ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig yma yn Aber. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion lleol, colegau, dysgwyr sy'n oedolion, cyflenwyr lleol a busnesau i wneud y Brifysgol hyd yn oed yn fwy agored. Ac, mae hwn yn ddiwrnod allan gwych!”

Cynhelir Mynediad Am Ddim rhwng 10:30 y bore a 3:00 y prynhawn ac mae'n agored i bawb. Mae amserlen lawn o’r ddigwyddiadau ar gael yma.

AU22814