Y Brifysgol yn noddi Ras yr Iaith

18 Mehefin 2014

Fe fydd Ras yr Iaith yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener 20 Mehefin, ras sydd yn anelu i dynnu siaradwyr Cymraeg, pobl di-Gymraeg a dysgwyr at ei gilydd i hybu defnydd yr iaith Gymraeg. 

Mae’r ras, sydd yn cael ei noddi gan y Brifysgol, yn dechrau ym Machynlleth am 8.45am ac yn gwneud ei ffordd i Aberystwyth erbyn 10am ger Canolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth. 

Bydd y ras hefyd yn mynd i Dregaron, Llambed, Aberaeron, Cei Newydd, Llandysul a Castell Newydd Emlyngan orffen tua 7.30pm y noson honno ar y Cei yn Aberteifi.

Cylchdaith o 5km fydd llwybr y ras yn Aberystwyth a fydd yn dechrau ar waelod grisiauCanolfan y Celfyddydau. 

Mae baton arbennig ar gyfer y ras ac fe fydd hon yn ei cael phasio ymlaen mewn mannau arbennig yn Aberystwyth; Canolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth, Caeau Ficerdy’r Brifysgol yn Llanbadarn, Llys y Brenin, Gerddi Rheidiol ac wedyn yn olaf, Ysgol Llwyn-yr-Eos yn Penparcau. 

Mae croeso i unrhywun gymeryd rhan ac mae mwy o wybodaeth i’w gael yma amdani: http://rasyriaith.org/ 

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth, “Rydym yn hynod o falch o gefnogi Ras yr Iaith ac yn gobeithio gweld llawer o’n cydweithwyr yn dod atom i’n cefnogi neu’n dod yn eu ‘sgidiau rhedeg i ymuno â ni am ran neu’r cyfan o gymal Aberystwyth.  Bydd o gysur efallai i rai mai i lawr y rhiw mae’r cymal sy’n dechrau ger Canolfan y Celfyddydau.  

“Fel Prifysgol rydym wedi cynorthwyo cynhyrchu baneri a thaflenni’r Ras ac mae sawl cydweithiwr i ni wedi gweithio’n galed fel gwirfoddolwyr i gefnogi’r trefniadau.  Dymunwn bob llwyddiant i Ras yr Iaith ac yn cymeradwyo’r Ras fel ffordd ysbrydoledig o godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r iaith Gymraeg.” 

Dywedodd Sion Jobbins, un o drefnwyr Ras yr Iaith, “Gall unrhyw berson gymryd rhan yn y ras yma. Ras hwyl dros yr iaith yw hi ac mae croso cynnes i unrhywun gymryd rhan. 

“Fe fyddwn ni yn mynd ar gyflymder digon hamddenol gan mai dim ras gystadleuol fel y cyfryw ydi hi. Yr enillydd fydd yr iaith Gymraeg, ein cymunedau a’n hiechyd wrth i ni dynnu pobl o bob cefndir at ei gilydd. Byddwch yn rhan o’r hwyl ac ymunwch a ni yn ystod y diwrnod.” 

Os ydych chi eisiau rhedeg, stiwardio neu helpu cymal Aberystwyth yna, cysylltwch â Jaci Taylor o’r Ganolfan Gymraeg i Oedolion yma yn y Brifysgol; jmt@aber.ac.uk neu ar 01970 628462. Neu e-bostiwch y cyfeiriad canolog: post@rasyriaith.org

AU25514