Cynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

25 Mehefin 2014

 Yng nghyfarfod y Cyngor ar ddydd Gwener 20 Mehefin, ystyriodd y Brifysgol ddyfodol ei chynllun pensiwn mewnol, Cynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Aberystwyth (CPAPA).

Ar 29 Ebrill 2013, cymeradwyodd y Cyngor gynigion i gynnal ymgynghoriad ar gau CPAPA ar gyfer croniad yn y dyfodol ac ar gyfer aelodau newydd, a chyflwyno cynllun Cyfraniad Diffiniedig (CD).

Mae'r cynigion a gymeradwywyd gan y Cyngor yn dilyn adolygiad o addasrwydd a chynaliadwyedd CPAPA a nododd  fod CPAPA yn golygu bod y Brifysgol yn agored i anwadalwch sylweddol yn y farchnad fuddsoddi â diffyg a gododd o £16.6m ar 1 Mawrth 2011 i £23.7m ar 31 Mawrth 2013 cyn gostwng i £12.8m ar 31 Mawrth 2014, a phryderon bod taliadau i aelodau yn debygol o gynyddu ar gyfradd gyflymach na'r cynnydd yng ngwerth asedau'r cynllun.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 9 Mehefin 2104 ac ystyriwyd barn y staff sy’n cael eu heffeithio ynghyd â’u cynrychiolwyr Undebau Llafur, diffyg sylweddol y cynllun pensiwn a chynaliadwyedd y cynllun i’r dyfodol.

Yn ystod ei gyfarfod ar 20 Mehefin bu Cyngor y Brifysgol yn ystyried yn fanwl yr adborth a dderbyniwyd drwy gydol yr ymgynghoriad. Yn dilyn trafodaeth sylweddol, cytunodd y Cyngor ar y canlynol:

  • Cau’r Cynllun Buddion wedi’u Diffinio (BD) i groniadau ac aelodau newydd erbyn 31 Mawrth 2015
  • Cyflwyno cyfnod o drafod gyda’r undebau llafur i drafod:
    • Cynnwys yr undebau llafur yn y broses o gaffael cynllun CU newydd;
    • Ymestyn y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol gydag Amodau Gwell am 2 flynedd arall i staff CPAPA.Byddai angen i staff wneud cais erbyn 19 Rhagfyr 2014 a gadael erbyn 31 Rhagfyr 2016.

Mae Cyngor y Brifysgol wedi dirprwyo cymeradwyaeth union ddyluniad y cynllun CU newydd i'w Bwyllgor Cyllid a Strategaeth.

Wrth gloi'r cynllun, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i'r canlynol:

  • Bydd yr holl fuddion sydd wedi’u hennill yn CPAPA hyd at y dyddiad cau yn cael eu diogelu a bydd unigolion yn dod yn aelodau gohiriedig o CPAPA, ac ni fydd modd cronni mwy o fuddion yn CPAPA. Bydd y buddion pensiwn gohiriedig o CPAPA i'r unigolion hyn yn seiliedig ar eu cyflog terfynol ar y dyddiad y byddant yn gadael y Brifysgol, er enghraifft, pan fyddant yn ymddeol.
  • Cynnal yr un lefel o fuddion sy'n ymwneud ag afiechyd a marwolaeth-mewn-gwasanaeth sy’n cael eu cynnig gan CPAPA ar hyn o bryd.
  • Yn sgil yr ymgynghoriad, cytunodd y Brifysgol i godi cyfraniad y cyflogwr i 10%.
  • Gall gweithwyr gyfrannu faint a fynnont i'r cynllun newydd arfaethedig, o 0% hyd at £40k, yr uchafswm a ganiateir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a pharhau i dderbyn cyfraniad y Brifysgol o 10%.

Cafodd y penderfyniad ei gyflwyno i gynrychiolwyr yr Undebau Llafur fore Llun 23 Mehefin.

Mae'r Brifysgol yn edrych ymlaen at weithio gydag aelodau o'r Undebau Llafur ar y broses gaffael ar gyfer y cynllun pensiwn Cyfraniad Uniongyrchol newydd.

 

AU6514