Correspondant étranger

Yr Athro David Trotter

Yr Athro David Trotter

27 Mehefin 2014

Mae’r Athro David Trotter, Pennaeth yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd a Chyfarwyddwr prosiect y Geiriadur Eingl-Normaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ei ethol yn aelod anrhydeddus tramor (correspondant étranger) o'r Académie des Inscriptions et Belles-Lettres ym Mharis.

Sefydlwyd yr Académie yn 1663 fel menter gan Colbert, gweinidog tramor Louis XIV. Ers 1805 fe’i safle’r “Collège des Quatre-Nations” fu cartref yr Académie, ar y quai de Conti ger Pont des Arts.

Mae'n un o bum academi’r Institut de France, ac ar unrhyw adeg mae iddi 50 étrangers.

Yn ôl ei siarter, mae’r Académie “yn ymwneud yn bennaf ag astudio henebion, dogfennau, ieithoedd, a diwylliant y gwareiddiadau’r cynfyd, yr Oesoedd Canol, a’r cyfnod clasurol, yn ogystal â diwylliannau nad ydynt yn rhai Ewropeaidd.”

AU23414