Urddo Cymrodyr yn ystod Graddio

Ei Anrhydedd Farnwr Niclas Parry, a urddwyd yn Gymrawd yn 2013

Ei Anrhydedd Farnwr Niclas Parry, a urddwyd yn Gymrawd yn 2013

11 Gorffennaf 2014

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn urddo un ar ddeg o Gymrodyr yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol yr wythnos nesaf - Dydd Llun 14 tan Ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eleni yw:

D. Geraint Lewis
D. Geraint Lewis oedd Llyfrgellydd Addysg a Phlant Cyngor Sir Dyfed cyn cael ei benodi’n Llyfrgellydd Ardal ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion. Mae wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Er Anrhydedd Cyngor Llyfrau Cymru ers 1986 ac enillodd wobr Tir na n-Og yn 1996 am ei eiriadur Geiriadur Gomer i’r Ifanc.

Cyflwynir D. Geraint Lewis gan Dr Mari Elin Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, ar ddydd Llun 14 Gorffennaf am 11 y bore.

Yr Athro John Harries
Mae'r Athro John Harris yn enwog am ei waith ar ffiseg atmosfferig, ac arweiniodd y tîm a ddaeth o hyd i'r dystiolaeth arsylwol gyntaf bod effaith tŷ gwydr y Ddaear wedi cynyddu rhwng 1970 a 1997.

Cyflwynir yr Athro John Harries gan yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Fathemateg a Ffiseg, ar Ddydd Llun Gorffennaf am 3 y prynhawn.

Jeremy Bowen
Golygydd Dwyrain Canol y BBC a chyflwynydd teledu uchel ei fri o Gymru yw Jeremy. Wedi treulio llawer o'i yrfa'n ohebydd rhyfel, roedd ymhlith yr ychydig newyddiadurwyr a fu'n gweithio ar yr argyfwng yn Syria yn ddiweddar.

Cyflwynir Jeremy Bowen gan Dr Madeline Carr o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar ddydd Mawrth 15 Gorffennaf am 11 y bore.

Syr Michael Moritz
Ganwyd y cyfalafwr menter a’r dyngarwr Syr Michael Moritz yng Nghaerdydd, ac ef yw cadeirydd Sequoia Capital yn Silicon Valley, Califfornia, lle mae’n gweithio ers 1986. Mae’n gyn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Google, ac mae ei fuddsoddiadau yng nghwmnïau’r rhyngrwyd yn cynnwys Google, Yahoo!, PayPal a YouTube. Penodwyd Syr Michael yn Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (KBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2013 am ei wasanaethau i hyrwyddo buddiannau economaidd Prydain a’i waith dyngarol.

Cyflwynir Syr Michael Moritz gan yr Athro Steve McGuire, Pennaeth yr Ysgol Fusnes a Rheolaeth, ar ddydd Mawrth 15 Gorffennaf am 3 y prynhawn. 

Rhodri Meilir
Graddiodd yr actor o Gymro, Rhodri Meilir, o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 2000. Mae Rhodri wedi ymddangos mewn nifer o raglennu teledu poblogaidd gan gynnwys chwarae rhan Alfie Butts yng nghyfres My Family y BBC ac Afterlife ar ITV. Mae’n abnabyddus ar y teledu yng Nghymru am ei rolau yn Y Pris, Caerdydd, Teulu, Tipyn o Stad ac fel Rapsgaliwn. Cafodd ei enwebu yng ngwobrau BAFTA Cymru yng nghategori’r actor gorau yn 2013 am ei rôl fel Trefor yn Gwlad yr Astra Gwyn. Mae Rhodri chwarae rhan yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a gafodd gryn ganmoliaeth.

Cyflwynir Rhodri Meilir gan Dr Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf am 11 y bore.

Ed Thomas
Mae Ed Thomas yn ddramodydd, yn gyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd. Mae’n un o sylfaenwyr ac yn gyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory. Mae hefyd wedi cynhyrchu nifer o raglenni drama ar gyfer S4C gan gynnwys Caerdydd, Y Pris, Pen Talar, Gwaith/Cartref, ac yn fwyaf diweddar Y Gwyll/Hinterland, cyfres dditectif a gynhyrchwyd yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer S4C a’r BBC ac a ddosbarthwyd yn rhyngwladol gan All3Media. Cafodd llawer o’r gyfres Y Gwyll ei ffilmio yn y Brifysgol a’r cyffiniau, a bu Ed yn gyfrifol am drefnu nifer o leoliadau gwaith i fyfyrwyr y Brifysgol wrth i’r gyfres gael ei ffilmio.

Cyflwynir Ed Thomas gan Dr Kate Woodward o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf am 11 y bore.

Rhod Gilbert
Yn fab i ddau o gyn-fyfyrwyr Aber, mae Rhod Gilbert yn fwyaf adnabyddus am ei athrylith comedi. Yn 18 mis cyntaf ei yrfa, ef oedd yr un cyntaf ym Mhrydain i gyrraedd rowndiau terfynol pob cystadleuaeth talent newydd o bwys ac fe lwyddodd i gipio pedair gwobr. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd at amrywiaeth o wahanol sioeau comedi ac erbyn hyn mae'n cyflwyno'r Rhod Gilbert Show ar Radio Wales y BBC ar fore Sadwrn.

Cyflwynir Rhod Gilbert gan yr Athro Sarah Prescott, Cyfarwyddwr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol, ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf am 3 y prynhawn.

Yr Athro Bonnie Buntain
Yr Athro Buntain yw Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada. Cyn ymuno â'r Gyfadran honno, bu'r Athro Buntain yn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.

Cyflwynir yr Athro Bonnie Buntain gan yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Ansawdd Academaidd, ar ddydd Iau 17 Gorffennaf am 11 y bore.

Dr John Sheehy
Mae Dr Sheehy yn Bennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol (IRRI), ac yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth. Cyflawnodd waith arloesol ar raglen ymchwil flaengar a sefydlodd dîm o wyddonwyr rhyngwladol i dorri tir newydd ar ymchwil i blanhigion reis, a chynyddu’r cynhaeaf drwy atgyfnerthu ffotosynthesis. Ariannwyd y fenter gan Sefydliad Bill a Melinda Gates ac, yn fuan wedi iddo ymddeol, dyfarnwyd OBE iddo.

Cyflwynir Dr John Sheehy gan yr Athro Iain Donnison o’r Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ar ddydd Iau 17 Gorffennaf am 11 y bore.

Brian Jones
Ffarmwr ac entrepreneur Gorllewin Cymru, Brian Jones, yw Rheolwr Gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell ac fe ffurfiodd y cwmni yn y 1980au. Mae Castell Howell yn un o bartneriaid diwydiannol IBERS sydd yn cefnogi gwaith ymchwil i wella ansawdd bwyd a chadwyni cyflenwi cynaliadwy.

Cyflwynir Brian Jones gan yr Athro Nigel Scollan, Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ar ddydd Iau 17 Gorffennaf am 3 y prynhawn.

Y Farwnes Kay Andrews
Graddiodd y Farwnes Andrews mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth ym 1966. Yn 2009 hi oedd y wraig gyntaf i’w phenodi’n Cymru ar Gadeirydd English Heritage (2009-2013). Mae’n awdur adroddiad diweddar i Lywodraeth Ddiwylliant, Treftadaeth a Thlodi, ac mae hefyd wedi ysgrifennu llyfrau ac erthyglau ar bolisi gwyddoniaeth, polisi cymdeithasol ac addysg. Mae hi'n Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi.

Cyflwynir y Farwnes Kay Andrews gan Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor dros Wasanaethau i Fyfyrwyr a Staff, ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf am 11 y bore.

Dywedodd Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Bob blwyddyn rydym yn anrhydeddu’r hyn a gyflawnwyd gan unigolion sydd wedi rhagori yn eu meysydd penodol ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth, i Gymru a thu hwnt. Rwyf wrth fy modd fod casgliad mor nodedig a diddorol o Gymrodyr newydd wedi derbyn ein gwahoddiad. Bydd ein myfyrwyr a’n staff yn falch o gael rhannu llwyfan gyda hwy yn ystod Wythnos Graddio.”

 

AU24114