Cymrawd Dysgu ac Addysgu

Nitin Naik

Nitin Naik

15 Gorffennaf 2014

Cyflwynwyd Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu i Nitin Naik o'r Adran Gyfrifiadureg yn ar ddydd Llun 14 Gorffennaf,  mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad eithriadol i addysgu a dysgu yn y Brifysgol.

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn gwobrwyo aelodau staff academaidd sydd wedi rhagori yn eu maes gyda Chymrodoriaethau Dysgu.

Yn wreiddiol o India, mae Nitin yn meddu ar ddwy radd Baglor, pum gradd Meistr ac yn ar hyn o bryd mae’n cwblhau PhD mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ganddo tua 22 mlynedd o brofiad addysgu ac ymchwil mewn addysg uwch a'i brif ardal o ymchwil a dysgu yw systemau diogelwch, deallusrwydd artiffisial, mwyngloddio data a mathemateg. Mae hefyd yn awdur 30 o lyfrau ar gyfrifiadureg ac argymhellir rhan fwyaf ohonynt fel gwerslyfrau mewn prifysgolion yn India.

Esboniodd Nitin, "Rwy’n credu mai gwaith tîm yw'r allwedd i lwyddiant unrhyw sefydliad a bod unigolion yn datblygu drwy ryngweithio a chydweithio o fewn tîm. Mae’r rhagoriaeth hwn yn rhan bwysig o gydnabyddiaeth i'r athro/athrawes ar gyfer eu cyfraniad addysgu a dysgu i'r brifysgol fel cymuned.

"Rwy'n falch iawn o fod wedi derbyn dwy wobr addysgu o fewn cyfnod o dair blynedd. Mae’n dilysu fy ymrwymiad i addysgu, ac yn cryfhau fy mhenderfyniad i gynnal rhagoriaeth yn y dyfodol."

Bydd y Gwobrau yn cael eu cyflwyno i bum ymgeisydd llwyddiannus yn ystod Seremonïau Graddio eleni a gynhelir rhwng y 14eg-18fed o Orffennaf 2014.

Y pedwar aelod academaidd arall i gael eu cyflwyno yw Dr Antonia Ivaldi, o’r Adran Seicoleg, Dr David Whitworth o IBERS, Graham Lewis o'r Ganolfan ar gyfer Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd a’r Athro Len Scott o'r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Nod y cynllun yw codi proffil addysgu neu gefnogaeth ar gyfer dysgu yn y Brifysgol a chydnabod dylanwad lleol ac ehangach unigolyn ar y gymuned addysgu.

Eglurodd yr Athro Tim Woods, Cyfarwyddwr Athrofa Addysg, Datblygu Proffesiynol a Graddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chadeirydd y Panel Gwobrau, "Mae'r unigolion hyn wedi gwneud cyfraniad sylweddol at addysgu a dysgu yn y Brifysgol ac wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sydd yn ofynnol ohonynt ar sawl achlysur.

“Yr unigolion yma yw ein prif hyrwyddwyr mewn dysgu ac addysgu sydd yn aml yn ysbrydoli arloesedd a lledaenu arferion da o fewn y Brifysgol.

"Mae pob Cymrawd wedi derbyn £1,200 i'w cefnogi er mwyn parhau gyda'u datblygiad proffesiynol mewn addysgu neu ddysgu."

Mae Cronfa Gwella Dysgu ac Addysgu hefyd ar gael ar gyfer prosiectau sy'n gwella dysgu ac addysgu sydd yn cynnwys mwy nag un adran academaidd neu a ellir ei ddefnyddio ar draws adrannau.

Mae'r Gronfa yn canolbwyntio ar feysydd a amlygwyd yn Strategaeth Ehangu Mynediad Dysgu Aberystwyth / Bangor, ac yn cynnig hyd at uchafswm o £2,000 y prosiect.

Roedd Dr Hannah Dee o'r Adran Gyfrifiadureg, Dr Sarah Riley o'r Adran Seicoleg a Richard Williams a Dr Stephen Tooth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn llwyddiannus gyda'u ceisiadau.

AU27414