Un o raddedigion Aberystwyth yn cipio Ysgoloriaeth Llyndy Isaf

Cafodd Tudur Parry ei gyflwyno fel enillydd Ysgoloriaeth Llyndy Isaf yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd

Cafodd Tudur Parry ei gyflwyno fel enillydd Ysgoloriaeth Llyndy Isaf yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd

23 Gorffennaf 2014

Tudur Parry, sydd newydd raddio mewn Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad o Brifysgol Aberystwyth, yw enillydd Ysgoloriaeth Ffermio Llyndy Isaf ar gyfer 2014/5.

Trefnir yr Ysgoloriaeth ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Daw Tudur o Garndolbenmaen, ac mi fydd yn dilyn ôl troed Caryl Hughes, enillydd cyntaf yr Ysgoloriaeth ac sydd hefyd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth lle bu’n astudio Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid.

Tudur hefyd yw enillydd gwobr Myfyrwyr Amaeth y Flwyddyn IBERS ar gyfer 2014.

Bydd Tudur yn dechrau ar ei gyfnod yn rheoli Llyndy Isaf, fferm fynydd 614 acer, ym mis Medi.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd, “Bydd yn gyfle gwych. Rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at gael defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth a gefais yn y brifysgol ar y fferm.”

Fe gafodd Tudur ei fagu ar fferm wartheg, a dywedodd ei fod yn “gobeithio helpu i ddatblygu'r agwedd honno ar y busnes”.

“Hoffwn wella fy sgiliau hwsmonaeth defaid hefyd.

“Rwy'n siŵr y bydd yn her ac rwyf ychydig yn nerfus oherwydd bod gen i esgidiau mawr i'w llenwi; mae Caryl wedi gwneud gwaith ardderchog ac rwy'n falch iawn y bydd hi yno i gynnig rhywfaint o arweiniad yn ystod fy mis cyntaf.”

Cwblhaodd Tudur Ddiploma Genedlaethol Uwch (HND) mewn Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 2010 a 2013.

Treuliodd ei Flwyddyn Cyfnod Gwaith ar fferm Hafod y Llan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ym Meddgelert.

Ar ôl cwblhau ei HND, symudodd i flwyddyn olaf y cwrs BSc(Anrh) yn yr un pwnc gan raddio ganol Gorffennaf 2014.

Dywedodd Iwan Owen, Darlithydd mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, “Tra yma yn y Brifysgol bu Tudur yn fyfyriwr gweithgar, diymhongar a wnaeth y gorau o bob cyfle.

“Mae dilyn trywydd galwedigaethol y cwrs HND neu Radd Sylfaen wedi bod yn hynod o effeithiol gan adael iddo gwblhau cymhwyster cydnabyddedig yn y cyfamser, treulio blwyddyn mewn swydd wych ar fferm adnabyddus Hafod y Llan ac yna mynd ymlaen i gwblhau gradd BSc mewn dim ond blwyddyn ychwanegol.

“Mae Tudur yn haeddu pob clod am ei orchestion ac fe fydd ei gyfuniad o brofiad ymarferol perthnasol o’i gyfnodau yn Llwyndy Isaf ac yn Hafod y Llan, a’i gymhwyster academaidd da yn blatfform gwych ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.”

Blwyddyn yw cyfnod Ysgoloriaeth Llyndy Isaf. Nod yr ysgoloriaeth yw annog yr ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu sgiliau allweddol ac ehangu ei wybodaeth am y diwydiant ffermio.

Yn ystod ei flwyddyn bydd Tudur yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar redeg y fferm gan gynnwys rheoli stoc, gwaith gweinyddol ac ymarferol.

AU30814