Cymrodoriaeth Windsor Vivian Ezugha yn graddio

Vivian Ezugha

Vivian Ezugha

17 Gorffennaf 2014

Mae Vivian Ezugha, yr unig ymgeisydd yng Nghymru i ennill Cymrodoriaeth Windsor y llynedd, wedi graddio mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r Gymrodoriaeth yn raglen datblygiad proffesiynol a phersonol am flwyddyn ar gyfer israddedigion Lleiafrifoedd Ethnig Du (BME) sydd wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru.

Ym mis Hydref, bydd Vivian yn dechrau gwaith cyflogedig 50 wythnos gyda'r Adran Addysg yn Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn rhan o ddyfarniad Cymrodoriaeth Windsor.

Dywedodd, "Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith yma a fydd yn fy helpu i ddarparu sgiliau hanfodol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd yn edrych i fynd i mewn i'r gweithle.

"Mae'r Gymrodoriaeth wedi helpu gwella fy sgiliau arwain, sgiliau datblygiad personol ac amcan llawer ehangach o adeiladu dyfodol mwy disglair i Leiafrifoedd Duon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a Lloegr.

"Rwy'n teimlo y bydd y sgiliau hyn yn amhrisiadwy yn Llywodraeth Cymru oherwydd byddaf yn gallu defnyddio'r hyn yr ydw i wedi ei ddysgu i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial."

Yn wreiddiol o Nigeria, symudodd Vivian gyda'i theulu i fyw i Birmingham pan oedd yn wyth mlwydd oed. Penderfynodd astudio yn Aberystwyth oherwydd hunaniaeth ddiwylliannol gref yr ardal ac am ei fod yn nes i’r môr a chefn gwlad.

Am chwe wythnos dros yr haf, bydd Vivian yn cymryd rhan yn y rhaglen haf Canolfan Celfyddydau Wysing yng Nghaergrawnt fel rhan o Ysgoloriaeth Ysgol Haf Celfyddydau Leverhulme.

Ychwanegodd Vivian sy’n 23-mlwydd oed, " Rwy’n credu’n gryf mewn helpu pobl ifanc o gefndiroedd gwahanol i fagu hyder a gwybod eu bod yn gallu cyflawni eu potential beth bynnag yw eu sefyllfa gymdeithasol."

"Yn y dyfodol, hoffwn gymryd rhan mewn prosiectau celf gymunedol ac yn y pen draw, hoffwn astudio gradd Meistr mewn Celfyddyd Perfformio gan fod y pwnc yma wir o ddiddordeb i mi."

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Gymrodoriaeth Windsor yma: http://www.windsor-fellowship.org%20

Gellir cael mwy o wybodaeth am Ysgoloriaeth Ysgol Haf Celfyddydau Leverhulme yma: http://www.wysingartscentre.org/whats_on/young_artists/leverhulme_arts_scholarships1

AU28214