Myfyrwyr talentog Unol Daleithiau yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth

Y myfyrwyr Fulbright a Gillian McFadyen

Y myfyrwyr Fulbright a Gillian McFadyen

25 Gorffennaf 2014

Mae Sefydliad Haf Fulbright Comisiwn Cymru, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, yn rhaglen ddiwylliannol ac academaidd chwe wythnos ar gyfer myfyrwyr o'r Unol Daleithiau sy’n cael ei gynnal mewn tair prifysgol yng Nghymru sy'n adnabyddus yn rhyngwladol: Aberystwyth, Bangor a Phrifysgol Caerdydd.

Mae wyth o fyfyriwr talentog o’r Unol Daleithiau i archwilio daearyddiaeth, diwylliant, treftadaeth a hanes Cymru, yn ymweld ag amgueddfeydd, orielau a thirnodau twristiaeth rhwng 21 Mehefin - 2 Awst 2014.

Mae’r israddedigion eisoes wedi ymweld â Chaerdydd a Phrifysgol Bangor ac maent bellach yn treulio pythefnos yn Aberystwyth a byddant yn edrych ar newidiadau ym materion economaidd a chymdeithasol canolbarth Cymru.

Eglurodd Gillian McFadyen o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, "Maen nhw wedi cael amserlen brysur dros y pythefnos nesaf yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru, Twyni Ynyslas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, Nant yr Arian, Ystâd Hafod, y Canolfan Dechnoleg Amgen yn ogystal â mynychu seminarau a sgyrsiau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Nod y rhaglen yw darparu myfyrwyr gyda rhaglen academaidd gyffrous, i archwilio daearyddiaeth, diwylliant, treftadaeth a hanes Cymru, yn ogystal â datblygu eu medrau dysgu, ymchwil a chyfathrebu."

Yng Nghaerdydd, astudiodd y myfyrwyr y newid economaidd a diwydiannol yn Ne Cymru yn ystod y tair canrif ddiwethaf ac ym Mangor, cawsom weld sut mae Cymru, mewn byd globaleiddio gyflym, sydd yn genedl fach yn cadarnhau ei hunaniaeth, traddodiadau, diwylliant ac iaith.

Mae'r Comisiwn Fulbright wedi bod yn hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ddiwylliannol trwy ysgoloriaethau addysgol dros 60 mlynedd. Mae'r Sefydliadau Haf wedi'u cynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r DG wrth ddatblygu eu sgiliau academaidd ac arweinyddiaeth.

Mae'r myfyrwyr fel a ganlyn:

Paige Balcom, Prifysgol New Hampshire
Kelly Allen, Prifysgol Arizona State
Kiersten Kuc, Prifysgol Missouri-Columbia
Emily Schebler, Prifysgol Ball State
Nathaneal Thomas, Academi Filwrol Unol Daleithiau yn West Point
Matthew Waskiewicz, Prifysgol American
Jacqueline Welsh, Prifysgol Arizona State
Roberto Roldan, Prifysgol South Florida

Mae rhai o'r myfyrwyr wedi sefydlu blogiau i rannu eu profiadau o Sefydliad Haf Fulbright:

Emily Schebler: My Welsh Adventure 
Jacqueline Welsh: Letters from Wales 
Matthew Waskiewicz: Finding Wales
Roberto Roldan: A Bull Abroad

AU30914