Gwobr Efydd EcoCampus i'r Brifysgol

29 Gorffennaf 2014

Cafodd Prifysgol Aberystwyth ei ddyfarnu gyda Thystysgrif Efydd yn ddiweddar fel rhan o Gynllun Dyfarniad Cenedlaethol EcoCampus i gyflwyno System Rheoli Amgylcheddol (EMS) ar draws y Brifysgol. 

Mae'r cynllun gwobrau yn helpu prifysgolion i adnabod, gwerthuso, rheoli a gwella ei berfformiad ac arferion amgylcheddol mewn gwahanol gyfnodau cynyddol. 

Un ymgyrch lwyddiannus a ddenodd gefnogaeth gan staff a myfyrwyr oedd ymgyrch ‘Tywyllwch Myfyrwyr' i helpu i leihau'r defnydd o ynni a CO2 ar draws y Brifysgol. 

Eglurodd Janet Sanders, Cynghorydd Ynni ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Roedd ymgyrch Tywyllwch Myfyrwyr yn llwyddiannus iawn ac yn gwneud y staff a'r myfyrwyr i feddwl ddwywaith am y swm o ynni a ddefnyddir ganddynt yn ddiangen. 

"Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i fod mor effeithlon â phosibl yn ei ddefnydd o ynni ac adnoddau naturiol er mwyn lleihau ei effaith ar yr amgylchedd a'i gostau ynni, ac mae'r wobr hon yn cydnabod y ffaith honno." 

Mae EcoCampus yn cyd-fynd yn agos gydag ISO 14001, safon rheoli amgylcheddol rhyngwladol, a BS 8555, safon canllaw Prydain. 

Ar y lefel Efydd, mae'r Brifysgol wedi dangos ymrwymiad sefydliadol drwy ei uwch reolwyr, wedi cynhyrchu Polisi Cynaliadwyedd Amgylcheddol, wedi cynnal adolygiad sylfaenol o’i effaith ar yr amgylchedd, rolau a chyfrifoldebau sefydledig a gwerthuso anghenion hyfforddi. 

Mae'r system EcoCampus yn cwmpasu pob agwedd ar weithrediadau'r Brifysgol, gan gynnwys: rheoli gwastraff, defnydd o ynni, effeithlonrwydd dŵr, prynu cynaliadwy, adeiladu ac adnewyddu, bioamrywiaeth, teithio a chyfranogiad cymunedol. 

Bydd y Brifysgol yn gwneud cais am y Wobr Arian ym mis Hydref eleni, sef y cam nesaf yn y cynllun gwobrau ac yn cynnwys adnabod agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, gosod amcanion a thargedau a gweithredu rhaglen amgylcheddol er mwyn sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar EcoCampus yma: http://www.ecocampus.co.uk 

AU20314