Fferm Penglais

Fferm Penglais

Fferm Penglais

04 Awst 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth yn siomedig iawn fod Balfour Beatty wedi cadarnhau wrthi yn hwyr ym mis Gorffennaf fod Fferm Penglais, datblygiad llety newydd i fyfyrwyr £45m y Brifysgol, yn mynd i fod yn hwyr.

Mewn datganiad wrth y Brifysgol, dywedodd Balfour Beatty ei bod “yn ddrwg gennym am yr anghyfleustra mae hyn wedi'i achosi.”

Rhannodd Balfour Beatty gynlluniau cyflenwi newydd gyda Phrifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf er mwy dangos y rhaglen ohiriedig. Yn y datganiad, dywedodd Balfour Beatty: "Oherwydd amgylchiadau, rhai ohonynt y tu hwnt i'n rheolaeth, mae dyddiad cyflwyno prosiect Fferm Penglais wedi’i ohirio. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 14 o flociau, ynghyd â'r adeilad canolog erbyn dechrau Tachwedd 2014, gyda gweddill y llety yn cael ei gyflwyno mewn da bryd ar gyfer cychwyn y flwyddyn academaidd 2015/16.

Yn y datganiad dywed Balfour Beatty: “mae ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i ddarparu cyfleusterau llety myfyrwyr o ansawdd dros y misoedd nesaf yn parhau."

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Heddiw (Dydd Llun 4 Awst), mae ein cydweithwyr yn y Swyddfa Llety yn cysylltu â phob un o'r myfyrwyr sydd wedi eu heffeithio gan yr oedi hwn er mwyn eu sicrhau y bydd llety arall yn cael ei ddarparu a’u cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael iddynt.”

“Bydd pob myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn cael cynnig llety, gan gynnwys pob un sy’n dewis ymuno â ni drwy Clirio.”

“Gwnaeth llawer o fyfyrwyr archebu eu llety ar Fferm Penglais yn gynnar. Bydd pob un o'r myfyrwyr hynny yn cael cynnig llety arall a bydd rhai yn cael cynnig y dewis o symud i ystafelloedd ar Fferm Penglais pan fyddant ar gael yn yr hydref.”

“Mae'r Cytundeb Prosiect sydd wedi ei lofnodi gan y Brifysgol a Balfour Beatty yn golygu na fydd unrhyw fyfyrwyr heb lety. Mae’n golygu hefyd na fydd unrhyw fyfyriwr, na'r Brifysgol, yn colli allan yn ariannol o ganlyniad i'r oedi hwn.”

Am fanylion am bwy i gysylltu â nhw os yr ydych chi, neu rywun yr ydych chi’n ei adnabod, wedi ei effeithio gan yr oedi hwn, ewch i wefan Swyddfa Llety.

AU31414