Rôl newydd yn hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil

Yr Athro Colin McInnes

Yr Athro Colin McInnes

12 Medi 2014

Mae’r Athro Colin McInnes o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi cael ei benodi yr Athro Ymchwil, Effaith a Rhagoriaeth newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd y rôl newydd yn cynnwys hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil ar draws y Brifysgol ac yn benodol monitro, cynghori a pharatoi Sefydliadau ac Adrannau Aberystwyth ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf (REF) yn 2020.

REF yw'r system ar gyfer asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol.

Cafodd cyflwyniad REF 2014 ei gwblhau'r llynedd ac mae'r asesiad yn cael ei gynnal gan baneli arbenigol ar ran y pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DG, gan gynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r canlyniadau i fod i’w cyhoeddi ar ddydd Iau 18 Rhagfyr, 2014.

Ymunodd yr Athro McInnes a’r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ym 1986. Ef yw Athro UNESCO o HIV/AIDS, Addysg a Diogelwch Iechyd yn Affrica ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol (CADEIRYDD).

Dywedodd, "Mae yna ymchwil gwych yn cael ei gynnal yma yn Aberystwyth. Mae'n achos o godi'r bar hyd yn oed yn uwch ar gyfer REF 2020 ac olrhain effaith darn o waith ymchwil o'r cychwyn cyntaf.

"Rwy'n edrych ymlaen at yr heriau newydd o'n blaenau a gweithio'n agos gyda’r adrannau, sefydliadau a’r swyddogion gweithredol yn y Brifysgol i gyflwyno asesiad llwyddiannus."

Mae’r Athro McInnes wedi bod yn Bennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ac mae ei lyfrau diweddar yn cynnwys Global health and International Relations (gyda Kelley Lee) a The Transformation of Global Health Governance (gydag eraill).

AU33314