Llwyddiant Safonau Iechyd Corfforaethol

Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Heather Hinkin

Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Heather Hinkin

24 Medi 2014

Mae’r Brifysgol wedi ennill Gwobr Efydd yn y Safonau Iechyd Corfforaethol, menter sy’n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru a’r marc ansawdd am hyrwyddo iechyd yn y gweithle yng Nghymru. 

Mae sefydliadau yn cael eu hasesu ar draws pedair lefel, o gategorïau efydd, arian, aur a phlatinwm mewn perthynas â’u hymarferion i hyrwyddo iechyd a lles eu gweithwyr.  

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Heather Hinkin, “Rydym wrth ein bodd ein bod o fod wedi cael ein cydnabod am y wobr hon. Mae llawer o waith rhagorol yn digwydd yma yn y Brifysgol i gynyddu a hybu iechyd ymysg staff a myfyrwyr. 

“Sylwodd yr aseswyr ar elfennau o feini prawf arian ac aur yn ystod yr ymweliad asesu sydd yn dangos ein bod ar y llwybr cywir gyda'n hamcanion ar gyfer y dyfodol. 

“Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn gweithio tuag at y Wobr Arian ac yn gobeithio ennill honno yn y flwyddyn academaidd 2014/15.  

“Hoffwn ddiolch i’r Grŵp Llywio Iechyd Corfforaethol a’r staff sydd wedi gweithio i ennill y wobr hon.” 

Fel mentrau ansawdd eraill yn y gweithle, mae’n rhaglen raddol a chaiff sefydliadau eu hail-asesu bob tair blynedd. Mae’r gwaith i gyflawni'r Safon yn gyson â'r model rhagoriaeth busnes, a ddefnyddir i ysgogi datblygiad ansawdd a datblygiad sefydliadol mewn llawer o sefydliadau. 

Mae mwy o wybodaeth i’w gael ar y fenter yma: http://wales.gov.uk/topics/health/improvement/work/corporate/?skip=1&lang=cy

AU40414