Aberystwyth ar restr mewn dau gategori ar gyfer gwobrau cadwedigaeth ddigidol

Gwobrau Cadwedigaeth Digidol 2014

Gwobrau Cadwedigaeth Digidol 2014

24 Medi 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud y rhestr fer mewn dau gategori yn y Gwobrau Cadwedigaeth Ddigidol eleni.

Crëwyd y Gwobrau yn 2004 gan y Gynghrair Cadwedigaeth Ddigidol (DPC) ac maent yn ddathliad o lwyddiant y bobl a'r sefydliadau hynny sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol ac arloesol i sicrhau bod ein cof digidol yfory yn hygyrch.

Maent yn cael eu gweithredu ar ran cymuned amrywiol i godi ymwybyddiaeth o'r her cadwedigaeth ddigidol. Maent yn dathlu gwaith caled a dyfeisgarwch sydd fel arall sydd heb ei gydnabod ac maent yn cydnabod ymdrechion personol rhagorol. Mae'r gwobrau yn dal sylw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, annog buddsoddiad ac atgyfnerthu partneriaethau.

Mae'r 13 sefydliad neu unigolyn wedi cyrraedd y rhestr ar gyfer pedwar categori:

Y Wobr NCDD ar gyfer Addysgu a Chyfathrebu, gan gydnabod rhagoriaeth mewn allgymorth, hyfforddiant ac eiriolaeth.
• Cadwedigaeth Ddigidol Ymarferol: a sut i arwain ar gyfer sefydliadau o unrhyw faint gan Adrian Brown
• Gwella sgiliau Gwybodaeth Broffesiynol gan Brifysgol Aberystwyth
• Cyflwyniad i Guradu Digidol: Mae Cwrs UCLeXtend ar-lein ar agor gan Goleg Prifysgol Llundain

Gwobr DPC ar gyfer y Gwaith Myfyriwr Mwyaf Neilltuol yng Nghadwedigaeth Ddigidol, annog a chydnabod gwaith myfyrwyr mewn cadwedigaeth ddigidol.

• Lleisiau o chwarel segur gan Kerry Evans, Ann MacDonald a Sarah Vaughan, Prifysgol Aberystwyth a phartneriaid
• Gêm Cadwraeth yn y Deyrnas Gyfunol gan Alasdair Bachell, Prifysgol Glasgow
• Efelychiad v Fformat Trosi gan Victoria Sloyan, Coleg Prifysgol Llundain

Gwobr OPF ar gyfer Ymchwil ac Arloesi sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn gweithgareddau ymchwil ac arloesi ymarferol.

• Jpylyzer gan yr KB (Llyfrgell Frenhinol yr Iseldiroedd) a phartneriaid
• Y Prosiect SPRUCE gan Brifysgol Leeds a phartneriaid
• bwFLA Archifo Swyddogaethol Tymor Hir a Mynediad gan Brifysgol Freiburg a phartneriaid

Y Wobr DPC ar gyfer Diogelu'r Etifeddiaeth Ddigidol, sy'n dathlu defnydd ymarferol o offer cadwraeth i ddiogelu gwrthrychau digidol mewn perygl.

• Cadwraeth ac Ailddeddfu Celf Barod Ddigidol, gan Brifysgol Freiburg a Rhizome
• Archif Carcanet E-bost, Prifysgol Manceinion
• Ysbrydoli Iwerddon, Cadwrfa Ddigidol Iwerddon a Phartneriaid
• Y Cwmwl a'r Fuwch, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru

Bydd y gwobrau'n cael eu cyflwyno mewn noson dderbyniad gala yn Llundain ar ddydd Llun 17 Tachwedd, 2014.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan DPC.

AU40514