Arddangosfa printiau Tseiniaidd

Torlun pren gan Xie Minjie

Torlun pren gan Xie Minjie

01 Hydref 2014

Bydd Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth yn croesawu pedwar artist o Changsha, Talaith Hunan, Tsieina, yr wythnos nesaf sydd yma yn ymweld ag Arddangosfa Gyfoes Printiau Tsieineaidd a fydd yn agor yn Yr Ysgol Gelf ar ddydd Llun 13 Hydref.

Maent yn cynnwys yr Athro Xiangke Luo, Pennaeth Celfyddyd Gain, Prifysgol Normal Changsha a'r Athro Lu Yu o Brifysgol Changsha Central South (CCS) sydd hefyd yn Gyfarwyddwr ac Is-Gyfarwyddwr Cymdeithas Printiau Hunan. Bydd Cyfarwyddwr Celf Greadigol Prifysgol Normal Changsha, Liu Jing a Huang Yuanqiang, Cadeirydd Cymdeithas Gelf Chenzhou, hefyd yn teithio i Aberystwyth.

Curadwyd yr arddangosfa gan Paul Croft, Darlithydd mewn Printiau yn yr Ysgol Gelf. Mae'n cynnwys dros saith deg o brintiau gan 28 o wneuthurwyr printiau gan gynnwys aelodau o’r Gymdeithas Printiau Hunan yn ogystal â phrintiau gan fyfyrwyr o Brifysgol CCS, Prifysgol Normal Changsha (CNU) ac Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Hunan.

Esboniodd Paul, "Mae'r arddangosfa yn cynnwys ystod eang o ddelweddau, testun a thechnegau a'i nod yw darparu cipolwg hynod ddiddorol ar brintiau cyfoes o’r rhan ddiddorol yma o Tsieina.

"Ym mis Mai, teithiais i Changsha ar gyfer agoriad y sioe gyntaf, 'Jie' (Gororau), arddangosfa ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol CCS ym Mharc Celf Ryngwladol Changsha Houhu.

"Roedd yr arddangosfa yn cynnwys 33 o lithograffau gen i a nifer tebyg o dorluniau pren a phrintiau sgrin gan yr Athro Lu Yu. Roedd un o'r adolygwyr yn cynnwys Artron, gwefan boblogaidd iawn sydd wedi’i ymroi i gelfyddyd gyfoes yn Tsieina."

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Paul gyda gwneuthurwyr printiau o Gymdeithas Printiau Hunan ac roedd yn gallu dewis gwaith ar gyfer y sioe yn Aberystwyth. Tra’r oedd yno, rhoddodd hefyd ddarlithoedd ym mhob un o'r tair prifysgol a chynnal gweithdy lithograffeg pedwar diwrnod i 30 o fyfyrwyr yn CNU.

Ychwanegodd Paul, "Y gobaith yw y bydd cydweithio a chyfnewid staff a myfyrwyr pellach yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf, a fydd yn arwain at arddangosfeydd pellach a phrosiectau partneriaeth debyg."

Mae’r arddangosfa ‘Contemporary Chinese Printmaking’ i’w gweld yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, Buarth Mawr, Aberystwyth o ddydd Llun 13 Hydref tan ddydd Gwener 21 Tachwedd. Ceir mwy o wybodaeth yma: http://wordpress.aber.ac.uk/soanews/2014/10/01/contemporary-chinese-printmaking/

AU41314