Arbenigwyr ar losgfynyddoedd ar raglen Science Cafe BBC Radio Wales

Llosgfynydd

Llosgfynydd

07 Hydref 2014

Bydd dau academydd o Brifysgol Aberystwyth yn ymddangos ar rifyn yr wythnos hon o raglen wyddoniaeth BBC Radio Wales, Science Café, fydd yn cael ei darlledu ar ddydd Mawrth 7 Hydref am 6.30 o’r gloch yr hwyr, ac eto ar nos Sul 12 Hydref am 6.30 o’r gloch yr hwyr.

Ar y rhaglen bydd Dr Carina Fearnley a'r Athro John Grattan yn trafod actifedd folcanig gyda’r cyflwynydd Adam Walton, yn sgil digwyddiadau folcanig diweddar.

Bydd Dr Fearnley, sy'n arbenigo mewn lleihau peryglon trychinebau, yn trafod effaith farwol  llosgfynyddoedd sydd ddim yn ffrwydrol ond sy’n gallu rhyddhau llawer fawr o nwy  i’r atmosffer gan effeithio ar yr hinsawdd. Bydd hefyd yn trafod llosgfynyddoedd yng Nghymru, y potensial am losgfynyddoedd enfawr, ac agweddau eraill o’r pwnc.

Bydd yr Athro Grattan yn trafod risg a pha mor fregus yw Prydain ac Ewrop i ffrwydradau folcanig mawr, a gallu dynolryw i oroesi digwyddiadau enfawr. Mae cysylltiad rhwng hyn â’i waith gyda SAGES (Cyngor Gwyddonol i Lywodraeth mewn Argyfwng) lle mae’n darparu cyngor i Swyddfa’r Cabinet ar ffrwydradau Gwlad yr Iâ.

Bydd y rhaglen hanner awr yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales o 6 yr hwyr, a gellir gwrando arni ar-lein ar yma neu fel arall ar 95.3 FM.

Yn dilyn y darllediad, bydd y bennod ar gael ar iPlayer y BBC.

AU43114