Urddo Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz yn Gymrawd

Cyflwyno Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz ibni Almarhum Tuanku Munawir, yr unfed ar ddeg Yang di-Pertuan Besar o Negeri Sembilan, Maleisia, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

Cyflwyno Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz ibni Almarhum Tuanku Munawir, yr unfed ar ddeg Yang di-Pertuan Besar o Negeri Sembilan, Maleisia, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

10 Tachwedd 2014

Urddwyd Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz ibni Almarhum Tuanku Munawir, yr unfed ar ddeg Yang di-Pertuan Besar o Negeri Sembilan, Maleisia, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni yn Kuala Lumpur ar ddydd Sadwrn 8 Tachwedd.

Graddiodd Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz gyda gradd LLB (Anrh) o Brifysgol Aberystwyth yn 1970 ac ef yw Noddwr Brenhinol Clwb Alumni Maleisia Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz ei gyflwyno yn Gymrawd gan yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu unigolion sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Wrth groesawu Ei Uchelder Brenhinol yn Gymrawd, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; "Mae'n anrhydedd cyflwyno Cymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth i'w Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz.

"Mae gan Prifysgol Aberystwyth berthynas agos â Maleisia sy'n ymestyn yn ôl i'r 1950au cynnar, ac mae’n parhau i ffynnu hyd heddiw. Mae cenedlaethau o bobl ifanc o Maleisia wedi astudio yn Aberystwyth, a llawer ohonynt wedi dychwelyd yno i gymryd rolau arweiniol yno mewn busnes, llywodraeth a'r farnwriaeth, ac wrth ffurfio gwladwriaeth fodern Maleisia.

“Fel arfer, mae Cymrodoriaethau yn cael eu cyflwyno yn Aberystwyth yn ystod Graddio. Mae cyflwyno Cymrodoriaeth i’w Uchelder Brenhinol ym Maleisia yn arwydd o'n parch, ac yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd ein perthynas hir sefydlog â Malaysia.”

Yn gyn-fyfyriwr o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, graddiodd Ei Uchelder Brenhinol o Adran y Gyfraith ym 1970. Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, roedd tywysog o Negeri Sembilan yn hoff iawn o chwaraeon, yn chwaraewr sboncen brwd ac yn aelod of dîm Coleg Prifysgol Cymru.

Dychwelodd i Malaysia ar ôl graddio, a gwnaeth gyfraniad pwysig i fywyd masnachol a busnes Malaysia. Cydnabuwyd ei lwyddiant yn y byd busnes yn eang ym Malaysia a thu hwnt.

Yn ogystal â'i diddordebau proffesiynol, mae Ei Uchelder Brenhinol wedi cyfrannu'n fawr at achosion elusennol ac mae'n gefnogwr gweithgar o Glwb Rotari Kuala Lumpur. Mae Ei Uchelder Brenhinol yn hoff iawn o gerddoriaeth, jazz yn arbennig, yn gitarydd talentog ac yn adnabyddus am ei gasgliad o gitarau.

Mae'n gefnogwr nodedig o Brifysgol Aberystwyth, ac wedi cefnogi Clwb Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth Prifysgol Maleisia ers ei sefydlu, ac ef yw Noddwr Brenhinol y Clwb. Roedd y Brifysgol a'i chyn-fyfyrwyr, yn enwedig Clwb Alumni Malaysia, yn hynod falch i nodi a dathlu gorseddu Ei Uchelder Brenhinol fel yr i'r 11eg Yang di-Pertuan Besar o Negeri Sembilan, ac maent yn ei longyfarch ar ei llwyddiannau hyd yma.

Dathlodd Clwb Alumni Prifysgol Aberystwyth Malaysia Gymrodoriaeth Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz drwy gynnal cinio tei ddu ar nos Sadwrn 8 Tachwedd ar gyfer cyn-fyfyrwyr, dirprwyaeth o  Brifysgol Aberystwyth a gwesteion enwog eraill.

Mae Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz yn ymuno â chymuned o saith o Gymrodyr Prifysgol Aberystwyth o Maleisia sy’n gynnwys Tun Salleh Abas (Y Gyfraith 1954), Tan Sri Dato 'Seri Arshad Ayub (Economeg ac Ystadegau 1954-1958), Dato Zawiyah Baba (Llyfrgellyddiaeth MLib 1983 / PhD Astudiaethau Llyfrgellyddiaeth 1994-1998), Tan Sri Ahmad Don (Economeg a Busnes 1969), HRH Tunku Ja'afar (Gwleidyddiaeth Ryngwladol 1966-1969), a Datin Mariam Kadir (Llyfrgellyddiaeth 1969).

AU45714