Y Brifysgol yn cymryd rhan yn Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2014

Y rhaglen fenter AberPreneurs

Y rhaglen fenter AberPreneurs

14 Tachwedd 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2014 rhwng 17-21 Tachwedd sef yr ymgyrch mwyaf yn y byd sydd yn hyrwyddo entrepreneuriaeth.

Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad yn chwarae rôl hanfodol i annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i ystyried dechrau eu busnes eu hunain neu fenter gymdeithasol.

Bydd Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth yn cynnal gweithgareddau megis dosbarthiadau meistr marchnata, ymchwil marchnata, cyllid ac amddiffyn eiddo deallusol (IP) drwy gydol yr wythnos ac i mewn i fis Rhagfyr (rhestr lawn isod).

Mae'r digwyddiadau yma yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn troi syniad busnes i mewn i realiti.

Eglurodd Tony Orme, Rheolwr Menter, Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi "Rydym wedi creu brand menter o'r enw AberPreneurs yn y Brifysgol sy’n tynnu sylw at y cymorth, y cyngor a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn dechrau busnes."

"Mae AberPreneurs yn cynnig rhaglen drwy gydol y flwyddyn o sgyrsiau ysbrydoledig, digwyddiadau menter, mentora, cystadlaethau, cyfleoedd rhwydweithio a chyngor ynglŷn ag arian.

"Yn ystod ac ar ôl Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, bydd AberPreneurs yn cydlynu ac yn rheoli'r dosbarthiadau meistr a byddant hefyd yn arddangos yr amrywiaeth o gefnogaeth a gynigir gan y Brifysgol a'i phartneriaid, Antur Teifi a Menter a Busnes."

Bydd tîm AberPreneurs hefyd yn cael ei leoli yn Undeb y Myfyrwyr ar ddydd Mawrth 18 Tachwedd a BlasPadarn ar Gampws Llanbadarn ar ddydd Gwener 21 Tachwedd rhwng 11yb-3yh.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer dosbarth meistr yma.

Os ydych yn awyddus i ddechrau busnes, dewch draw i gwrdd â’r tîm neu cysylltwch â Tony Orme ar aberpreneurs@aber.ac.uk

Dyddiad

Manylion y digwyddiad

Lleoliad

Dydd Iau 20 Tachwedd
14.15 – 17.15

Dosbarth meistr 1 – Ymchwil Marchnata
Pwysigrwydd   ymchwilio’r   farchnad ar gyfer   busnes newydd

Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais

Dydd Mercher 26 Tachwedd
14.15 – 17.15

Dosbarth meistr 2 – Marchnata
Sut i ddatblygu strategaeth farchnata

Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais

Dydd Mercher 3 Rhagfyr
14.15 – 17.15

Dosbarth meistr 3 – Cyllid
Pwysigrwydd   cynllunio a rheolaeth ariannol

Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais

Dydd Mercher 10 Rhagfyr
14.15 – 17.15

Dosbarth meistr 4 – eiddo deallusol (IP)
Nodi   a diogelu   IP, gan gynnwys patentau, hawlfraint a   nod masnach

Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais

 AU49214