Jack the Ripper – y dystiolaeth goll

Dr Gareth Norris

Dr Gareth Norris

18 Tachwedd 2014

Ymddangosodd yr Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Dr Gareth Norris ar raglen Channel Five Jack the Ripper: The Missing Evidence ar nos Lun 17 Tachwedd, lle roedd yn llunio proffilio o unigolyn newydd a ddrwgdybir o fod yn euog am lofruddiaethau Whitechapel ‘Jack the Ripper’.

Mae’r rhaglen yn ystyried tri degawd o ymchwil gan y newyddiadurwr Christer Holmgren sydd wedi ei arwain at dyst o'r enw Charles Cross, neu Charles Allen Lechmere i roi ei enw cywir.

Lechmere ddaeth o hyd i gorff Polly Nicholls, yr ail i’w llofruddio gan y  Ripper, a gellir dadlau bod ei drefn ddyddiol yn gyson â phob un o'r marwolaethau eraill.

Mae'r rhaglen yn adrodd bod Lechmere nid yn unig yn dweud celwydd wrth blismon ar y noson, ond ei fod hefyd wedi dweud celwydd yn y cwest ac wedi defnyddio ei enw ffug ‘Cross’.

Dim ond pan ddaeth enw iawn Lechmere i’r amlwg drwy ymchwil Holmgren ac eraill, y daeth tystiolaeth i’r amlwg sy’n ei gysylltu gyda’r llofruddiaethau.

Yn y rhaglen mae Dr Norris yn llunio proffil seicolegol o Lechmere ac yn dadansoddi ei ymddygiad daearyddol a’i weithredoedd yn y fan lle cyflawnwyd y drosedd er mwyn gweld os yw’n cyfateb gyda gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli am Jack the Ripper.

Mae Dr Norris hefyd yn archwilio lle’r oedd Cross yn byw, ac a yw'r lleoliad yn cyfateb i batrwm y llofruddiaethau.

Dywedodd Dr Norris; “O safbwynt seicolegol, mae sefyllfa Cross/Lechmere yn ddiddorol iawn gan taw fe ddarganfu un o'r cyrff, ei fod yn adnabod y strydoedd yn dda a bod ganddo reswm da iawn dros fod yn yr ardaloedd hyn ar yr adegau y cyflawnwyd y llofruddiaethau, yn sgil ei waith gyda chwmni cyflenwi Pickfords.

Roedd hefyd wedi symud allan o’i gartref, a rannai gyda’i fam, bythefnos cyn dechrau’r gyfres o droseddau, a allai awgrymu yn seicoleg fod rhywbeth wedi newid yn ei fywyd.”

Hon yw trydedd bennod y gyfres chwe rhan 'Conspiracy: The Missing Evidence’ sy’n edrych ar dystiolaeth sy'n cefnogi damcaniaethau cynllwyn adnabyddus iawn.

Mae penodau blaenorol wedi edrych ar yr amgylchiadau o gwmpas 9/11 a marwolaeth Marilyn Monroe.

Mae Jack the Ripper: The Missing Evidence bellach ar gael ar wasanaeth gwylio eto Channel 5.

AU50114