Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth ar restr fer gwobr ‘Ysgol Fusnes y Flwyddyn’

Aelodau o dím IBERS yn derbyn gwobr Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg yng Ngwobrau Addysg y Times Higher 2013

Aelodau o dím IBERS yn derbyn gwobr Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg yng Ngwobrau Addysg y Times Higher 2013

27 Tachwedd 2014

Mae Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth ar restr fer gwobr ‘Ysgol Fusnes y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Addysg y Times Higher 2014 sy’n cael eu cynnal heno, 27 Tachwedd.

Ers 10 mlynedd, mae Gwobrau Addysg y Times Higher wedi darparu llwyfan i brifysgolion a cholegau yn y Deyrnas Gyfunol i ddathlu'r timau a’r unigolion gorau mewn addysg uwch, a'r sefydliadau mwyaf llwyddiannus.

Mae'r gwobrau yn cydnabod talent eithriadol, ymroddiad ac arloesedd, o ymchwil i ehangu cyfranogiad, dysgu i entrepreneuriaeth.

Wrth siarad am y rhestr fer, dywedodd yr Athro Steven McGuire, Cyfarwyddwr yr Ysgol Busnes a Rheolaeth; "Rydw i wrth fy modd fod ymdrechion cydweithwyr a myfyrwyr yn yr Ysgol Busnes a Rheolaeth wedi cael eu cydnabod fel hyn. Rydym yn falch iawn o sut mae'r ysgol wedi datblygu ers ei sefydlu, ac yn enwedig ers i'r ysgol ddod yn rhan o’r Sefydliad Rheoli, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth yng Nghanolfan Llanbadarn.

"Mae'r Ysgol yn denu myfyrwyr a staff o bob rhan o'r byd, ac mae ein portffolio ymchwil yn parhau i dyfu ac yn darparu myfyrwyr a staff gydag amgylchedd dysgu ac addysgu rhagorol, yn ogystal â chyfleoedd ymchwil gwych yma yn Aberystwyth."

Dywedodd yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr y Sefydliad Rheoli, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth; "Rwy'n llongyfarch cydweithwyr yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar fod ar y rhestr fer, sy'n dangos ein hymrwymiad fel Athrofa a Phrifysgol at ein Hysgol Fusnes.

“Rydym yn edrych ymlaen yn y gobaith o newyddion da pan fydd canlyniadau terfynol y Gwobrau yn cael eu cyhoeddi heno.”

Cipiodd Prifysgol Aberystwyth ddwy wobr yng Ngwobrau’r Times Higher 2013.

Dyfarnwyd gwobr Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg i Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ac roedd Aberystwyth hefyd yn aelod o Crwsibl Cymru a enillodd yn y category Cyfraniad Neilltuol i Ddatblygu Arweinyddiaeth.

AU34414