Artist yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 gyda dwy arddangosfa yn y Brifysgol

Yr artist Mary Lloyd Jones a rhai o’r cynfasau a fydd yn cael eu harddangos yn yr Hen Goleg.

Yr artist Mary Lloyd Jones a rhai o’r cynfasau a fydd yn cael eu harddangos yn yr Hen Goleg.

03 Rhagfyr 2014

Mae un o artistiaid gweledol mwyaf nodedig ac uchel ei pharch yng Nghymru, Mary Lloyd Jones, yn cynnal dwy arddangosfa gelf yng Nghanolfan y Celfyddydau ac yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth fel rhan o'i dathliadau pen-blwydd yn 80 oed.

Am chwe wythnos rhwng 3 Rhagfyr a Dydd Gwener 16 Ionawr, bydd Mary yn arddangos detholiad o 30 darn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae’n cynnwys gwaith newydd yn ogystal â detholiad o weithiau cynnar sy'n ceisio dangos ei thaith artistig dros y 50 mlynedd diwethaf.

Mae'r ail arddangosfa yn cael ei chynnal yn ei chartref newydd, yr Hen Goleg, lle mae hi'n gweithio ar hyn o bryd. Bydd y Cwad yn cael ei drawsnewid gan faneri cynfas enfawr a fydd yn cael eu hongian dros y balconi a bydd y waliau yn dod yn fyw gyda’i chynfasau mawr lliwgar.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei hagor yn swyddogol gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, April McMahon, ar Ddydd Llun 15 Rhagfyr am 6.30 yr hwyr. Bydd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd ar ddydd Mawrth 16 o Ragfyr.

Eglurodd Mary; “Mae hanes yr Hen Goleg yn hynod ddiddorol ac rwy'n credu ei fod yn un o drysorau mwyaf Cymru. Mae cael fy stiwdio yma yn wych ac mae cael fy ngwaith celf wedi cael ei arddangos yma yn anrhydedd mawr.

“Bydd y gwaith sy’n cael ei arddangos yn dangos amrywiaeth o wahanol gyfnodau. Er enghraifft, cafodd y baneri yn y Cwad eu cynllunio i ddathlu'r traddodiad barddol Cymreig o'r cyfnod cynhanesyddol at nawr a chafodd eu creu yn 2000 i fod yn rhan o fy arddangosfa Canolfan y Celfyddydau pan gafodd estyniad newydd yn ei agor yn 2001.

“Rwyf hefyd yn arddangos darlun wnes i pan oeddwn yn saith mlwydd oed ynghyd â phortreadau o fy nhad a fy merched a nifer o lyfrau.”

Bydd hunangofiant newydd Mary o'r enw No Mod Cons hefyd ar gael i'w brynu yng Nghanolfan y Celfyddydau. Mae'n mynd i fanylder am ei magwraeth yng Ngheredigion ynghyd â'i chariad tuag at gelf a sut y dechreuodd fynd ati i beintio.

Ganwyd Mary ym Mhontarfynach, ac mae ganddi gysylltiad dwfn gyda Cheredigion. Er pan oedd yn ifanc iawn, amsugnodd y siapiau a thonau'r tirwedd a rhythmau o’i hamgylch a’i bywyd cymdeithasol a diwylliannol.

Mae hi'n adnabyddus am ddefnyddio lliwiau cyfoethog a bywiog ac mae wedi darlunio a phaentio'r byd o'i chwmpas ers yn blentyn.

Astudiodd Mary yn yr hen Ysgol Ramadeg, Ardwyn, yn Aberystwyth ac yn ddiweddarach, aeth hi i Goleg Celf Caerdydd lle cyfarfu â'i gŵr John Jones, sydd hefyd yn artist. Symudodd i Essex i fyw am gyfnod cyn dychwelyd i Geredigion yn barhaol yn 1961.

Mae hi'n artist sydd wedi gwneud enw i’w hun ac fe'i gwnaed yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2009.

Mae hi wedi bod yn arddangos ei gwaith ers 1966 ac erbyn heddiw, gellir gweld ei phaentiadau mewn nifer o gasgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Sefydliad Smithsonian Washington DC a Chyngor Sir Ceredigion.

Symudodd Mary i’w stiwdio newydd yn yr Hen Goleg ym mis Ionawr 2013. Cyn hynny, roedd yn gweithio yn un o Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau.

Ychwanegodd Mary; "Rwy'n frwd iawn dros ddatblygu’r Hen Goleg ac am ei weld yn cyrraedd ei lawn botensial.

"Yr wyf yn gweithio'n agos gyda'r Brifysgol i weld bod y weledigaeth i drawsnewid yr Hen Goleg yn ardal ddiwylliannol yn dod yn fyw ac mae’r posibiliadau yn destun cyffro.”

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon; “Rydym yn falch iawn bod Mary wedi dewis lleoli ei stiwdio yn yr Hen Goleg a'i bod hi hefyd yn Gymrawd y Brifysgol ac yn hyrwyddwr cryf dros ddatblygu’r Hen Goleg yn y dyfodol. Mae hi'n artist gweledol nodedig ac uchel ei pharch ac yn arlunydd o wreiddioldeb aruthrol.”

Yn gynnar yn 2015, bydd y Brifysgol yn lansio proses ymgynghori ar ddatblygiad yr Hen Goleg ac yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan. Dylai unigolion sydd â diddordeb yn hyn e-bostio’r Brifysgol ar hengoleg@aber.ac.uk

Mae swydd Swyddog Cydlynu’r Hen Goleg hefyd wedi cael ei hysbysebu'n fewnol yn ddiweddar yn y Brifysgol a fydd yn datblygu ac yn cyflwyno agweddau allweddol ar Brosiect yr Hen Goleg, ynghyd â gweithredu a chydlynu Cynllun Prosiect yr Hen Goleg.

Eglurodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni; “Mae gweithio gyda Mary wedi bod yn bleser ac mae’r gwaith mae hi wedi ei wneud i hyrwyddo'r Hen Goleg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi bod yn rhyfeddol.

“Byddwn yn ymgynghori'n eang ar gynlluniau ar gyfer datblygu'r Hen Goleg a byddwn hefyd yn gwahodd y cyhoedd i ddweud eu dweud ar ei ddyfodol.

“Mae'n adeilad sydd wedi chwarae rhan mor arloesol yn natblygiad Aberystwyth fel tref ac mae hefyd hoffter mawr gan lawer o bobl tuag ato.

“Mae Mary wedi dangos i ni'r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth ag unigolion a sefydliadau ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas gyda hi, y gymuned leol a thu hwnt.”

Mae’r Hen Goleg ar agor rhwng 8yb tan 7.45yh o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 10yb a 4yp ar ddydd Sadwrn.

AU52014