Dilynwyr Radio Amatur ar yr awyr

Martin Vickers, Rheolwr Data yn IBERS a Colin Sauze, Ymchwilydd Cyswllt yn yr Adran Gyfrifiadureg yn codi signalau radio yn ystod Pobl Ifanc ar yr Awyr.

Martin Vickers, Rheolwr Data yn IBERS a Colin Sauze, Ymchwilydd Cyswllt yn yr Adran Gyfrifiadureg yn codi signalau radio yn ystod Pobl Ifanc ar yr Awyr.

03 Rhagfyr 2014

Heddiw, Dydd Mercher 3 Rhagfyr, mae'r Sefydliad Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg ar y cyd â Chymdeithas Radio Amatur Aberystwyth a'r Cylch yn cynnal digwyddiad Pobl Ifanc ar yr Awyr.

Mae'r digwyddiad wedi ei anelu at y rhai  sy’n 25 oed ac yn iau ac yn cynnig cyfle i gael profiad o’r byd radio amatur.

Bydd cyfle i siarad â phobl ar draws y byd trwy loerennau, radios amledd uchel a negeseuon data.

Bydd hefyd arddangosiadau o dderbynwyr lloerenau tywydd, radio wedi ei ddiffinio gan feddalwedd, morse code ac ymchwil rhwydwaith synhwyrydd di-wifr.

Bydd y digwyddiad yn rhedeg 10 y bore tan 8 yr hwyr yng nghyntedd yr Adran Gyfrifiadureg yn y Estyniad Llandinam ac yng nghyntedd adeilad y Gwyddorau Ffisegol. Mae croeso i unrhyw un o dan 18 oed, ond bydd angen iddynt fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

Mae radio amatur yn hobi sy’n agored i bawb ac yn caniatáu i'w aelodau ddefnyddio amleddau radio sydd wedi eu neilltuo yn arbennig ar gyfer siarad â amaturiaid eraill o gwmpas y byd.

Yn aml bydd amaturiaid radio yn darparu’r gallu i gyfathrebu ar gyfer digwyddiadau ac mewn argyfyngau.

Yn wahanol i'r Rhyngrwyd, sy'n dibynnu ar seilwaith masnachol neu lywodraeth, mae radio amatur yn caniatáu cyfathrebu ar draws y byd a’r gofod heb isadeiledd ychwanegol neu ddefnyddio isadeiledd sy'n eiddo  i, ac a weithredir gan amaturiaid eraill.

Mae'n rhaid i amaturiaid radio gwblhau cwrs a chael trwydded cyn y caniateir iddynt ddarlledu.

Yn gynharach eleni  cymhwysodd 25 o fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth fel amaturiaid radio.

Mae llawer o'r hyn a ddysgir ar gyrsiau radio amatur yn atgyfnerthu'r deunydd sy’n cael ei ddysgu i fyfyrwyr Cyfrifiadureg a Ffiseg.

Mae nifer o aelodau staff ymchwil yn y Sefydliad Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg yn amaturiaid radio yn ogystal. Maent yn gallu cymhwyso eu gwybodaeth am radio i mewn i nifer o feysydd ymchwil, gan gynnwys ffiseg solar, roboteg a rhwydweithiau synhwyryddion di-wifr.

AU51614