A all embryo ddysgu?

Dr. Sarah Dalesman

Dr. Sarah Dalesman

08 Rhagfyr 2014

Os ydych chi’n embryo malwoden, mae’n debyg y gallwch chi!

Gall malwod llyn (lymnaea stagnalis) synhwyro cemegion sy’n cael eu rhyddhau gan eu rheibwyr tra eu bod nhw yn embryo yn yr ŵy, a gallant newid eu hymddygiad yn unol â hynny.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwysg (Exeter) a Phrifysgol Plymouth bellach wedi dangos fod malwod, os iddynt ddod ar draws arogl rheibwyr yn ystod y cyfnod datblygu cynharaf hwn, yn gallu osgoi pysgod ysglyfaethus yn well ar ôl deor.

Gall yr ymateb hwn, sydd wedi ei raglennu ymlaen llaw, fod yn arbennig o bwysig i falwod allu goroesi ar ôl deor, a hwythau’n fach ac yn fregus iawn.

Mae canfyddiadau’r ymchwil wedi eu cyhoeddi ar lein yn y cyfnodolyn Freshwater Biology.

Mae malwod llyn yn bwysig iawn i amgylcheddau dŵr croyw, gan helpu i reoli tyfiant planhigion sy’n gallu tagu ein hafonydd.

Maent hefyd dan fygythiad rheibwyr mewnlifol yn cynnwys y berdysyn ffyrnig a’r cimwch coch (pacifastacus leniusculus).

Bydd deall sut y gall malwod ddysgu am reibwyr ar wahanol adegau o’u bywyd yn rhoi syniad da i ni o sut y gallent oroesi yn yr amgylchiadau hyn sy’n fwyfwy peryglus.

Er mwyn cael syniad o sut y mae malwod yn ymateb i reibwyr, edrychodd y tîm ar ymateb malwod llyn, Lymnaea stagnalis, i arogl pysgodyn ysglyfaethus, yr ysgreten.

Sicrhawyd bod y malwod yn clywed arogl y rheibiwr drwy gydol eu cyfnod datblygu embryonig mewn capsiwlau ŵy.

Ar ôl iddynt ddeor, fe’u cadwyd mewn amgylchedd heb reibwyr am wythnos, cyn profi eu hymateb i arogl y rheibiwr.

Mi wnaeth malwod a glywodd arogl y rheibiwr yn ystod y cyfnod embryonig ymateb yn gryf wrth ddod ar ei draws eto fel malwod ifainc, gan gropian o’r dŵr er mwyn osgoi’r posibilrwydd o reibiwr.

Meddai’r prif awdur, Dr Sarah Dalesman (Cymrawd Ymddiriedolaeth Leverhulme ar ddechrau ei Gyrfa ym Mhrifysgol Aberystwyth); “ Cawsom eithaf syrpréis i weld pa mor dda yr oedd y malwod yn gallu dysgu yn ystod y cyfnod datblygu cynnar hwn.”

Efallai bydd y gallu i ymateb i reibwyr posibl tra yn yr ŵy yn arbennig o bwysig wrth alluogi malwod ifainc, bregus i oroesi.

“Canfyddiad arall oedd fod yr embryo a glywodd arogl y rheibiwr yn llai o faint wrth ddeor na’r rheiny a gadwyd mewn amgylchiadau heb reibwyr ynddynt”. Mae hyn yn gyson ag effeithiau straen ar ddatblygiad mamaliaid, yn cynnwys dyn, lle mae ffetysau mamau dan straen yn aml yn llai ar adeg eu geni na’u cymheiriaid na fu dan straen.

Yn ôl Dr. Simon Rundle (Prifysgol Plymouth); “Un o ganfyddiadau pwysicaf yr astudiaeth hon oedd y tebygolrwydd fod elfen genetig i ymddygiad y malwod, gan mai’r anifeiliaid a ymatebodd fwyaf oedd yr anifeiliaid hynny y daeth eu neiniau a’u teidiau ar draws psygod ysglyfaethus yn y gwyllt”.

Ariannwyd y gwaith ymchwil hwn gan Gymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme ar gyfer staff ar ddechrau eu gyrfa (Dr. Dalesman) ac ysgoloriaeth i fyfyrwyr israddedig gan y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid (Angharad Thomas).