Lansio astudiaeth ryngwladol o gynulleidfaoedd yr Hobbit

Yr Athro Martin Barker (chwith) a'r Athro Matt Hills

Yr Athro Martin Barker (chwith) a'r Athro Matt Hills

09 Rhagfyr 2014

Mae'r olaf o dair ffilm yr Hobbit, The Battle of the Five Armies i’w gweld am y tro cyntaf mewn sinemau yn y Deyrnas Gyfunol ar ddydd Wener 12 Rhagfyr, 2014.

Ar yr un diwrnod, bydd y prosiect ymchwil mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed i gynulleidfaoedd ffilm yn cael ei lansio gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd hyd at 140 o ymchwilwyr mewn 46 o wledydd yn cydweithio ar Brosiect Hobbit y Byd www.worldhobbitproject.org i geisio ymatebion i arolwg a gynlluniwyd er mwyn deall holl ystyron ffantasi i bobl ledled y byd.

Bydd yr arolwg yn casglu ymatebion mewn 33 iaith wahanol (gan gynnwys Cymraeg a Maori) a’r gobaith yw casglu dros 50,000 o ymatebion.

Ymhlith y cwestiynau a ofynnir fydd:

• Pwy sy'n hoff a phwy sy’n feirniadol o’r ffilmiau, a beth mae’r ddwy ochr yn ei weld ynddynt?

• Pa wahaniaeth mae adnabyddiaeth o’r llyfr yn ei wneud?

• Sut mae pobl yn pwyso a mesur perfformiad Martin Freeman fel Bilbo?

• Pwy sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein, a sut mae rhain yn effeithio ar ymatebion?

• Beth yw’r ymateb i'r ffilmiau mewn gwledydd mor amrywiol ag Awstralia, De Affrica, Japan, India, a'r Ffindir?

• Pan fydd pobl yn meddwl am eu hymateb i'r stori, pa gymunedau mwy o faint y maent yn teimlo’n rhan ohonynt?

Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn cysylltu’r cwestiynau hyn gyda chwestiynau mwy am rôl ffantasi mewn diwylliant cyfoes.

Yr Athro Martin Barker, Athro Emeritws Astudiaethau Ffilm a Theledu yn yr Adran Astudiaethau Ffilm a Theledu Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth yw un o brif ymchwilwyr yr astudiaeth.

Yn 2003 lansiodd yr Athro Barker astudiaeth fawr i ymateb y gynulleidfa i Lord of the Rings. Casglwyd 25,000 o ymatebion o bob cwr o’r byd gan ymchwilwyr o 18 o wledydd.

Dywedodd yr Athro Barker; "Hyd yn oed heb yr ymateb eithriadol gadarnhaol y beirniaid a gyfarchodd Lord of the Rings gan Peter Jackson, mae'r drydedd yng nghyfres yr Hobbit yn sicr o lwyddo. Ond mae ei llwyddiant yn codi cyfres o gwestiynau pwysig.

“Tan tua 2000, roedd y rhan fwyaf o feirniaid yn ddilornus o ffantasi, yn ei ystyried yn blentynaidd ac yn gam yn ôl. Ond arweiniodd cyfres o ddatblygiadau at newid sylweddol mewn agweddau. Gwelwyd llwyddiant ysgubol ffilmiau Lord of the Rings. Yn y cyfnod hwn hefyd daeth awduron ffantasi i’r amlwg a oedd yn meddu ar farn wleidyddol megis China Mieville - sydd yn ei dro wedi arwain trafodaeth feirniadol o bwys ar wleidyddiaeth ffantasi. Gwelwyd Game of Thrones yn ennill ei lle, ac mae’n parhau’n boblogaidd.

“Nid yw’n anodd meddwl am beth allai fod wedi arwain at y newid hwn. Byddai unrhyw fraslun yn sicr o gynnwys y canlynol; y frwydr rhwng gwyddoniaeth a chrefydd – y mae ffantasi yn ei hosgoi gan ei bod yn ymwneud â phynciau dychmygol mawr heb yr angen am gredoau pendodol; gallu cynyddol pobl i fyw bywydau 'rhithwir' - chwarae bod yn rhywun arall heblaw eu hunain bob dydd; y cynnydd graddol mewn symudedd byd-eang, sy’n ein gwthio i feddwl am ein hunain o fewn  cyfanfydoedd diwylliannol eraill; y gallu cynyddol i greu delweddau digidol ffotorealistic o ‘fydoedd eraill’; ac - mewn cymaint o ffyrdd - y besimistiaeth ddiwylliannol gynydol, gyda'r byd yn teimlo'n dywyllach a pheryclach, ac allan o reolaeth.

“Ond mae themâu mawr fel hyn yn sicr yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Nid yw seinma ôl-apocalyptaidd yn mynd i apelio at bawb, beth bynnaf fo’i safon. Mae ffuglen oedolion ifanc yn sicr yn cyrraedd at bobl tu hwn i’w grŵp oedran targed, ond nid at bawb. Felly, os mai ffantasi mewn rhyw ystyr eang yw'r 'genre’ poblogaidd newydd, beth mae'n ei olygu i wahanol fathau o bobl? Os yw presenoldeb y cymeriad ffantasiol gwan ei gymeriad yn llai poblogaidd, y gwir yw nad ydym yn gwybod nemor ddim am bleserau ac ystyron ffantasi i gynulleidfaoedd go iawn.

Wrth siarad am brosiect Lord of the Rings, dywedodd yr Athro Barker; “Un o'r canfyddiadau mwyaf diddorol oedd taw’r bobl wnaeth fwynhau ac edmygu’r ffilm fwyaf oedd y rhai a’i phrofodd fel ‘taith ysbrydol’ – hynny yw, fel ffordd o fynd i'r afael â materion moesol difrifol iawn heb orfod poeni am ymrwymiadau diwinyddol. Roedd pobl a ymatebodd i'r stori yn y modd hwn yn llwyddo i gyflawni gweithred feddyliol anarferol - ar ôl darllen y llyfrau a / neu gwylio'r ffilm sawl gwaith, gallent 'anghofio' yn strategol beth oedd yn mynd i ddigwydd, er mwyn ail-fyw y daith, ei dwyseddau a’i pheryglon, o'r newydd.

“Mae'r hoff gymeriadau a ddewiswyd gan y rhai sy'n fwyaf hoff o’r ffilm yn tueddu i fod yn gymeriadau sydd wedi ‘bod ar daith’ o hunan ddarganfyddiad a newid eu hunain. Yr amlycaf ymhlith y rhain oedd Pippin - bychan a ffôl ar y dechrau, ond yn cael ei orfodi i dyfu fyny a gwneud dewisiadau anodd erbyn y drydedd ffilm.

“I lawer o bobl, roedd gwybod bod pobl yn gwylio ac yn hoff o’r ffilm o amgylch y byd yn rhan bwysig iawn o’u mwynhad. Roeddent yn teimlo cysylltiad â chefnogwyr eraill y ffilmiau a'r llyfrau.”

Derbyniodd Prosiect Hobbit y Byd gefnogaeth ariannol gan yr Academi Brydeinig. Y prif ymchwilwyr yw’r Athro Martin Barker a'r Athro Matt Hills o Brifysgol Aberystwyth, a'r Athro Ernest Mathijs o Brifysgol British Columbia, Vancouver.

Yr Athro Martin Barker
Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Martin Barker. Yn ystod gyrfa ymchwil sy’n ymestyn dros 45 mlynedd bu’n gweithio mewn nifer o feysydd, ond yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf bu’n canolbwyntio ar astudio ymateb cynulleidfaoedd, gan geisio deall y pleserau a’r ystyr o ffilmiau mor amrywiol â Judge Dredd, Crash a Being John Malkovich. Gan ddefnyddio technegau ymchwil a ddatblygodd ei hunan, gwnaeth ymchwil ar ran y Bwrdd Dosbarthiadau Ffilm Prydeinig i ymateb cynulleidfaoedd i drais rhywiol ar y sgrin. Yn 2003 cyfarwyddodd brosiect ymchwil rhyngwladol i’r ymateb i ffilmiau Lord of the Rings, gan gasglu 25,000 o ymatebion mewn 14 iaith.

Yr Athro Matt Hills
Wedi iddo gwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Sussex, dechreuodd Matt weithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Canolbarth Lloegr cyn symud i Brifysgol Caerdydd yn 2000. Ymunod â Phrifysgol Aberystwyth yn Hydref 2012. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ymateb cynulleidfaoedd a byd cefnogwyr, Doctor Who, Torchwood, Sherlock, ffilm a theledu cwlt yn fwy cyffredinol, a diwylliant digidol.

AU48214