Lansio Caffi Ymgysylltu newydd

Chwith i’r Dde: Yr Athro Nigel Scollan a’r Athro Richard Marggraf Turley

Chwith i’r Dde: Yr Athro Nigel Scollan a’r Athro Richard Marggraf Turley

05 Ionawr 2015

Mae cyfres newydd o gyfarfodydd i drafod ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael ei lansio er mwyn hwyluso cydlynu profiad a gweithgareddau ar draws y Sefydliad.

Cynhelir sesiwn gyntaf cyfres newydd Caffi Ymgysylltu ar ddydd Mercher 4 Chwefror, 2015, 1-2pm, yn Hugh Owen D54.

Y bwroiad yw cynnal sesiwn ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, a bydd y Caffis yn gyfle i drafod ymgysylltu â'r cyhoedd, rhannu profiadau a chydgysylltu gweithgareddau.

Ym mhob sesiwn bydd un neu ddau o gydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol yn roi cyflwyniadau byr ar ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd y maent wedi bod yn ymwneud â nhw yn ddiweddar, ac yna bydd trafodaeth agored.

Bydd y sesiwn gyntaf yn cynnwys cyflwyniadau gan Dr Hannah Dee o Adran Cyfrifiadureg a Dr Chris Beedie o Adran Seicoleg.

Crewyd Caffi Ymgysylltu gan Richard Marggraf Turley, Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd, a Nigel Scollan, Athro er Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wyddoniaeth, a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a Chysylltiadau Allanol.

Dywedodd yr Athro Richard Marggraf Turley; “Yn draddodiadol, mae cysylltu â’r cyhoedd yn rhywbeth y mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei wneud yn dda iawn, ac mae’r Caffis yma yn cynnig lleoliad hamddenol i gydgysylltu a rhannu’r profiad hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd cydweithwyr ar draws adrannau academaidd a gwasanaeth yn dod draw i'r hyn yr ydym yn credu a fydd yn gyfleoedd bywiog i ddatblygu ymhellach y diwylliant ymgysylltu â'r cyhoedd yn Aberystwyth.”

Dywedodd yr Athro Nigel Scollan; “Mae diwylliant ymgysylltu â'r cyhoedd yn newid ar draws y sector. Bydd y datblygiad amserol hwn yn ein galluogi i rannu profiadau a dysgu yn eu sgíl, a’n gobaith yw y bydd yn ysbrydoli cydweithwyr i fanteisio ar y cyfleoedd niferus yma’n Aberystwyth i ymgysylltu â’r cyhoedd.”

Darperir te, coffi a brechdanau. Er mwyn i ni gael amcan o’r niferoedd, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cadarnhau eich presenoldeb drwy anfon e-bost at Mrs Sharon Evans (ppe@aber.ac.uk). Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau eraill at Richard Marggraf Turley (rcm@aber.ac.uk) neu Nigel Scollan (ngs@aber.ac.uk).

Mae Dr Hannah Dee yn Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg. Meysydd ymchwil Hannah yw gwelediad cyfrifiadurol ar gyfer dadansoddi ymddygiad dynol; canfod cysgodion a rhesymu ynghylch cysgodion; ac agweddau myfyrwyr i astudio gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Mae Hannah’n ddirprwy gadeirydd BCSWomen (grwp Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain ar gyfer menywod) ac yn rhedeg y BCSWomen Lovelace Colloqium, prif ddigwyddiad y DG ar gyfer menywod israddedig. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Gwyddoniaeth ar brosiect GOWS (Get On With Science), ac yn cymryd rhan mewn gweithdai rhaglennu i blant a'u rhieni yng Nghymru a ledled y DG.

Mae Dr Chris Beedie yn Ddarllenydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac mae wedi dysgu Seicoleg, Seicoleg Chwaraeon a Chaffael Sgiliau, Seicoleg Iechyd a Dulliau Ymchwil mewn nifer o brifysgolion yn y DG. Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o addysgu mewn diwydiant, lle y mae wedi arwain rhaglenni addysg ar raddfa fawr sy’n canolbwyntio ar egwyddorion seicoleg gymhwysol a gwyddor iechyd. Yn Chwefror 2014 cafodd ei waith ar sut y gall ffisigau ffug wella perfformiad ym myd chwaraeon ei gynnwys ar raglen Horizon y BBC. Yn hydref 2014 derbyniodd adroddiad yr oedd Chris yn gyd-awdur arno i ukactive ar segurdod corfforol yn Lloegr sylw eang yn y wasg.

AU54514