Cyflwyno gwaith T Gwynn Jones i’r Brifysgol

Dr Robin Chapman (chwith) a Robin Williams, myfyriwr Cymraeg a Hanes Cymru yn yr ail flwyddyn yn darllen un o lyfrau T Gwynn Jones

Dr Robin Chapman (chwith) a Robin Williams, myfyriwr Cymraeg a Hanes Cymru yn yr ail flwyddyn yn darllen un o lyfrau T Gwynn Jones

07 Ionawr 2015

Mae Adran y Gymaeg, Prifysgol Aberystwyth, yn byw unwaith eto yng nghwmni un o aelodau mwyaf adnabyddus ei staff.

Dysgodd Thomas Gwynn Jones (1871- 1949) yn yr adran am 34 o flynyddoedd rhwng cael ei benodi’n ddarlithydd yno yn 1913 a’i ymddeoliad yn 1937.  Fe’i penodwyd yn Athro Llên yn 1919.

Diolch i haelioni ei ŵyr, Mr Emrys Wynn Jones, a weithredai fel cofrestrydd i Coleg y Brifysgol Aberystwyth, rhoddwyd llawer o lyfrau’r Athro Jones, gan gynnwys copïau o’i waith ei hun, i’r adran i’w defnyddio gan staff a myfyrwyr.

Wrth ddiolch i Mr Jones am ei rodd, dywedodd Dr Robin Chapman, pennaeth gweithredol yr adran: “Roedd Thomas Gwynn Jones yn academydd nodedig ac, wrth gwrs, yn llenor o fri.  Gellid dadlau bod hanes llên yr ugeinfed ganrif yn cychwyn gydag ef.

“Teimlad rhyfeddol, felly, yw dal copïau personol yr Athro o waith rydw i wedi’i ddarllen gyda myfyrwyr drwy gydol fy ngyrfa, a llawer ohonyn nhw'n dwyn ei lofnod.  Mae’r casgliad yn cynnwys cyfran helaeth hefyd o’i lyfrgell academaidd ei hun. 

“Dri chwarter canrif a mwy ers iddo ymddeol o Aberystwyth, rhai o lyfrau’r Athro Jones, wedi dychwelyd adref, fel petai.”

Roedd T Gwynn Jones yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Gymraeg, ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau llên gwerin yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Yr oedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg. Cafodd ei eni yn y Gwyndy Uchaf yn yr hen Sir Ddinbych a’i gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn, Aberystwyth.

AU53014