Prifysgol Aberystwyth yn casglu barn ar felinau gwynt

20 Ionawr 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i’r posibilrwydd o greu ei hynni ei hun drwy ddefnyddio tri tyrbin gwynt. Wrth fynd ati i gyrraedd ei thargedau ar gynaladwyedd, a lleihau costau ynni, mae’r Brifysgol yn ymgymryd ag astudiaeth ddichonolrwydd i weld beth fydd yr anghenion cynllunio a busnes.

Pe cânt eu hadeiladu, byddai’r tri thyrbin 250 kilowat sy’n rhan o gynllun ‘Prifysgol Aberystwyth yn creu Dyfodol Cynaliadwy’ yn cynhyrchu digon o drydan i gyrraedd hyd at ddeg y cant o anghenion trydan y Brifysgol, ac yn arbed swm sylweddol o gostau trydan y Brifysgol dros oes y tyrbinau, sef 20 mlynedd.

Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno barn sgopio i Gyngor Sir Ceredigion i holi am wybodaeth bellach am yr anghenion i ddatblygu’r cynllun.

Bydd y Brifysgol yn cynnal ymgynghoriad dros gyfnod o dair wythnos gyda myfyrwyr, y cyhoedd, a staff y Brifysgol gan ddechrau gydag arddangosfa gyhoeddus o 7 yr hwyr nos Fercher, 28 Ionawr 2015.

Bydd y cynllun, ar gost o oddeutu £2.5m, hefyd yn cynorthwyo i amddiffyn y Brifysgol rhag y cynnydd ddaw yng nghostau ynni, cynorthwyo i gyrraedd targedau i leihau allyriadau carbon a darparu adnodd dysgu gwerthfawr i rai myfyrwyr fel rhan o’u hastudiaethau.

Eglurodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth: “Bydd datblygu’r tyrbinau yn cynorthwyo’r Brifysgol i wneud arbedion sylweddol i’n biliau trydan, fydd wedyn yn ein cynorthwyo i gynnig profiad myfyrwyr rhagorach.”

“Mae ein hanghenion ynni a phris ynni yn parhau i gynyddu. Bydd cynhyrchu ein hynni cynaliadwy carbon-niwtral ein hunain yn ffordd wych o gynorthwyo’r Brifysgol i gyrraedd at y ddwy her yma dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n gwneud synnwyr economaidd ac amgylcheddol.

“Byddai’r tri thyrbin yn ffurfio rhan o ymrwymiad ehangach y Brifysgol i arbed ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn insiwleiddio, boeleri ynni-effeithlon a sustemau gwresogi, paneli ffotovoltaic a thechnoleg thermol solar.”

Os cânt eu datblygu, byddai’r tyrbinau wedi eu lleoli ar ddau safle sy’n berchen i’r Brifysgol; un ar dir ger yr A487 uwchben datblygiad Pentre Myfyrwyr Penglais wrth ddod i mewn i dref Aberystwyth, a’r ddau arall ar dir gyferbyn â Champws Gogerddan, ger ffordd yr A4159 am Langurig.

Byddai’r tyrbinau yn mesur 30m o uchder i’r hwb, gyda chyfanswm uchder o 45m i ben bob llafn. Disgwylir i’r prosiect greu arbedion sylweddol dros oes y datblygiad, gan ddefnyddio costau ynni presennol.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddod i glywed mwy am y cynllun yng nghyntedd yr Hen Goleg o’r 28 Ionawr i’r 6 Chwefror, yna yn Undeb y Myfyrwyr o’r 9 i 13 Chwefror, ac yna yng nghyntedd IBERS, Campws Gogerddan o’r 16 i 20 Chwefror 2015. Bydd aelod o dîm Dyfodol Cynaliadwy, Prifysgol Aberystwyth ar gael i drafod y cynllun gyda’r cyhoedd rhwng 12 a 2 o’r gloch bob dydd yn y lleoliadau amrywiol hyn.

Ychwanegodd Rebecca Davies: “Rydyn ni eisiau barn pobl tref Aberystwyth a’r ardal ehangach ar y cynnig sydd ar y bwrdd. Rydym am glywed eu barn am y cynlluniau ac am eu gwahodd i fod yn rhan o’r ymgynghoriad fydd yn digwydd dros gyfnod o dair wythnos.

“Bydd yn rhoi cyfle i bobl ddod i ddeall mwy am y cynlluniau a deall beth yn union fydd oblygiadau’r cynnig. Bydd staff y Brifysgol ar gael i rannu  manylion am y cynllun.”

Unwaith y bydd mewnbwn wedi dod yn ôl gan Gyngor Sir Ceredigion ar y farn sgopio, a chan gymryd i ystyriaeth yr astudiaeth ddichonolrwydd, bwriad y Brifysgol yw cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer y ddau safle yn y gwanwyn. Y gobaith yw y bydd penderfyniad positif yn dod yn ôl gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion yn yr hydref, yn y gobaith y gall y gwaith adeiladu ddechrau yng ngwanwyn 2016.

Mae gwybodaeth bellach am y cynllun i’w gweld ar wefan Prifysgol Aberystwyth http://www.aber.ac.uk/cy/cynaladwyedd/ Gall aelodau’r cyhoedd sy’n awyddus i fynegi barn am y cynllun e-bostio.