Dr Who yn Aberystwyth

Wendy Padbury, fu’n chwarae rhan Zoe Heriot, cydymaith Y Doctor yn ystod cyfnod Patrick Troughton

Wendy Padbury, fu’n chwarae rhan Zoe Heriot, cydymaith Y Doctor yn ystod cyfnod Patrick Troughton

27 Ionawr 2015

Ar ddydd Mawrth 27 Ionawr, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnal dangosiad arbenning o ‘r ffilm THE FIVE DOCTORS, y fersiwn i ddathlu 20 mlynedd a ddaeth â’r pum Doctor cyntaf at ei gilydd, ynghyd â llu o gyfeillion mwyaf poblogaidd y Doctor.

Mae’r dangosiad yn rhan o gyfres o chwe digwyddiad Dr Who sy’n cael eu cynnal ar draws Cymru ac sy’n cael eu trefu gan BAFTA Cymru, BBC Cymru Wales a Film Hub Wales.

Yn The Five Doctors, mae’r Arglwyddi Amser yn galw ar Y Meistr am help pan mae Doctoriaid y gorffennol yn cael eu cymryd allan o amser i’r Rhanbarth Angau ar y blaned Gallifrey, lle maent yn dod wyneb yn wyneb â’u gelynion mwyaf marwol: y Dynionseibr, yr Yeti ac (wrth gwrs) y Daleks!

Wedi’r dangosiad bydd sesiwn holi ac ateb gyda Terrance Dicks, Awdur a Golygydd Sgript ar Dr Who, a Wendy Padbury, a fu’n chwarae rhan Zoe Heriot, cydymaith y Doctor yn ystod cyfnod Patrick Troughton.

AU3715