‘Untied Kingdom’: Syr Paul Silk i drafod gwaith y Comisiwn Silk

Syr Paul Silk

Syr Paul Silk

09 Chwefror 2015

Bydd Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, Syr Paul Silk KCB yn siarad mewn seminar a drefnwyd gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Chanolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 12 Chwefror, 2015 am 6.30 yr hwyr.

Cynhelir y seminar, 'Untied Kingdom' ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a’r cadeirydd fydd Dr Elin Royles.

Bydd ei anerchiad yn tynnu ar gylch gorchwyl y Comisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru, a gynhaliwyd rhwng 2011 a 2014.

Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn mewn dwy ran. Roedd Rhan 1 yn cynnwys argymhellion a fyddai'n rhoi'r grym i Gymru godi chwarter o'i chyllideb ei hun, a’r pŵer i Gymru i amrywio treth incwm yn 2020, yn dilyn refferendwm.

Yn Rhan II, a gyhoeddwyd yn 2014, cafwyd argymhelliad i gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad, ynghyd â datganoli plismona a’r cyfrifoldeb am osod terfynau yfed a gyrru a chyflymder i Lywodraeth Cymru.

Yn ei sgwrs, bydd Syr Paul Silk yn edrych yn ôl ar flynyddoedd y Comisiwn Silk, yn rhoi ei farn bersonol ar y broses ac ar y profiad o gadeirio'r comisiwn, ac yn rhannu ei syniadau ynghylch y newidiadau a allai gael eu gweld yn dilyn yr adroddiadau.

Wrth siarad cyn y seminar, dywedodd Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru: “Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn falch iawn i groesawu Syr Paul Silk yn ôl i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, flwyddyn ar ôl cyhoeddi ail ran Adroddiad y Comisiwn Silk.

“Mae’r trafodaethau parhaus o amgylch dyfodol datganoli yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol yn sicr yn ei gwneud hi’n adeg gyffrous i glywed barn a gweledigaeth Syr Paul Silk ar y ffordd ymlaen ar gyfer y ‘Deyrnas sy’n Ymddatod’, ac rydym yn falch iawn o’r cyfle i weithio ochr yn ochr â’r Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig wrth drefnu'r digwyddiad hwn.”

Mae mwy o fanylion ar gael gan sgc.iwp@aber.ac.uk / 01970 622336.

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru (SGC)
Cafodd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru (SGC) ei sefydlu fel canolfan ymchwil o fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1997. Profodd yn fenter lwyddiannus dros ben. Bellach caiff SGC ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer astudio gwleidyddiaeth Cymru ac fe’i hadnabyddir yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil bwysig ar ranbartholdeb gwleidyddol a chenedlaetholdeb is-wladwriaeth.

Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig
Sefydlwyd Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ym mis Ionawr 1999, gyda'r bwriad o atgyfnerthu a rhoi ffocws i waith ac arbenigedd yr Adran ym maes y Gyfraith a'i pherthnasedd i Gymru, a datblygiadau cyfreithiol cyffredinol sy'n gysylltiedig â Chymru. Prif amcan y Ganolfan yw ystyried a oes ffordd benodol Gymreig o edrych ar faterion cyffredinol o fewn i system gyfreithiol Cymru a Lloegr, a sicrhau bod datblygiadau cyfreithiol Cymreig yn cael eu hystyried yng nghyd-destun ehangach datblygiadau Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol. Nid mater i Gymru yn unig yw Datganoli: y mae’n fater byw a phwysig yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain, rhanbarthau o Loegr, ac mewn sawl rhan o Ewrop. Mae’r Ganolfan yn cydweithio â sefydliadau eraill ym Mhrydain a gwledydd eraill er mwyn ystyried a chymharu datblygiadau cyfreithiol mewn rhanbarthau eraill a ddatganolwyd.

AU4815