Llwyddiant i fyfyrwyr Marchnata Aberystwyth yn y Senedd

Tîm Prifysgol Aberystwyth gyda beirniaid Brolio/The Pitch (chwith i'r dde) Marc Diaper, beirniad Meilyr Caredig, beirniad Jade Tambini, beirniad Adam Butcher, Sophie Killer, Freya Boissonade

Tîm Prifysgol Aberystwyth gyda beirniaid Brolio/The Pitch (chwith i'r dde) Marc Diaper, beirniad Meilyr Caredig, beirniad Jade Tambini, beirniad Adam Butcher, Sophie Killer, Freya Boissonade

11 Chwefror 2015

Mae tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi creu argraff ar banel o farchnatwyr mwyaf blaenllaw Cymru ddoe '(10 Chwefror) i gael eu coroni'n bencampwyr cystadleuaeth Brolio / The Pitch eleni, a drefnwyd gan CIM (Y Sefydliad Marchnata Siartredig).

Teithiodd Freya Boissonade a Marc Diaper sy'n astudio Marchnata, a Sophie sy'n astudio Marchnata gyda Ffrangeg i'r Senedd a buont yn cystadlu yn erbyn rhai o brif dalentau creadigol Cymru i ennill y gystadleuaeth genedlaethol.

AU6115