Yr Athro John Rowlands

Yr Athro John Rowlands

Yr Athro John Rowlands

25 Chwefror 2015

Gyda thristwch y nodwn farwolaeth yr Athro John Rowlands, cyn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Yn wreiddiol o Drawsfynydd yng Nghwynedd, graddiodd yr Athro Rowlands o Brifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Cymraeg ym 1959. Parhaodd ym Mangor am ddwy flynedd arall gan gwblhau gradd MA ar y testun ‘Delweddau Dafydd ap Gwilym’.

Derbyniodd Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru ar gyfer astudiaeth bellach yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen rhwng 1961 a 1963, a dyfarnwydd iddo ddoethuriaeth (DPhil (Oxon) am ‘A Critical Edition and Study of the Welsh Poems Written in Praise of the Salusburies of Llyweni’ a gyhoeddwyd yn 1967.

Wedi cynfodau yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe,  Coleg Y Drindod Caerfyrddin, Coleg Prifysgol Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan rhwng 1963 a 1974, cafodd ei benodi’n Ddarlithydd i Adran y Gymraeg yn Aberystwyth yn 1975. Cafodd ei ddyrchafu’n Uwchddarlithydd yn 1976, yn Ddarllenydd yn 1992 ac yn Athro yn 1996. Parhaodd i weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth tan ei ymddeoliad yn 2003.

Wrth dalu teyrnged i’r Athro Rowlands, dywedodd Dr Robin Chapman, Pennaeth Dros-Dro Adran y Gymraeg: “Ysgytwad i bawb yn yr Adran oedd clywed y newydd am farw John, a buom wrthi drwy’r dydd yn cofio am ein gwahanol brofiadau personol ohono.  Cytunem ar un peth: collasom ffrind yn ogystal â chydweithiwr.

“Gallai sawl un ymffrostio’n gwbl gyfiawn mewn cyfran fechan o’i gyraeddiadau.  Roedd yn bianydd dawnus (cofir yn hir gan bawb amdano’n cyfeilio’r canu mewn partïon Nadolig adrannol).  Gwyddai am fwyd a gwin.  Roedd yn nofelydd arloesol – bron yr unig enghraifft o’r Angry Young Men mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau ei yrfa ac yn feistr ar gomedi a thrasiedi wedi hynny. Roedd yn feirniad beiddgar a ddysgodd genedlaethau o fyfyrwyr i edrych y tu hwnt i bersonoliaeth yr awdur i ganolbwyntio ar y geiriau ar ddu a gwyn yn eu cyd-destun hanesyddol.  Roedd yn olygydd manwl-gywir a chreadigol roddai sglein ar bopeth a aeth drwy’i ddwylo. Fel darlithydd ac athro, roedd yn fawr ei ddylanwad ar ddwsinau o lenorion ac academyddion amlwg.

“Roedd hefyd, wrth gwrs, yn ŵr ac yn dad – ac mae ein cydymdeimlad heddiw gyda Luned a’r teulu oll.”

AU7915