Ysgrifennydd Gwladol Cymru i draddodi Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS

06 Mawrth 2015

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS yn traddodi 15fed Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 11 Mawrth.

Caiff y ddarlith ei chynnal yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais a bydd yn dechrau am 7pm. Croeso i bawb.

Enillodd Stephen Crabb ei sedd oddi ar y Blaid Lafur yn 2005, gan ddod yn aelod ieuengaf o blith yr aelodau Seneddol Ceidwadol pan enillodd ym Mhreseli Sir Benfro.

Yn ystod ei gyfnod yn y Senedd, mae wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, Pwyllgor Dethol ar Ddatblygu Rhyngwladol, a Phwyllgor Dethol y Trysorlys.

Bu hefyd yn Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol dros Gymru, gan wasanaethu o dan David Jones.

Yn 2014, cafodd ei enwi  yn Wleidydd Cymreig y Flwyddyn mewn seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Wrth siarad cyn y ddarlith, dywedodd Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, ei bod yn “falch iawn o groesawu Stephen Crabb AS i Brifysgol Aberystwyth i gyflwyno Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Rydym yn gwybod bod y saith mis diwethaf, ers i Stephen Crabb gael ei benodi i'w swydd bresennol, wedi gweld trafodaethau pwysig iawn yn digwydd ynglŷn â dyfodol datganoli yn y Deyrnas Gyfunol, ac edrychwn ymlaen at glywed ei weledigaeth ar gyfer Cymru, cwta ddau fis cyn yr etholiad cyffredinol nesaf ym mis Mai 2015.”

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru

Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol a sefydlwyd o fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1997, hi yw’r adran hynaf o'i bath yn y byd. Fe'i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad o bob agwedd ar wleidyddiaeth Cymru a bellach, caiff y Sefydliad ei adnabod yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil bwysig ar ranbartholdeb gwleidyddol a chenedlaetholdeb is-wladwriaeth.

Dyma bymthegfed  Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru.  Mae siaradwyr blaenorol yn cynnwys tri Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Alun Michael AS, Rhodri Morgan AC, a Carwyn Jones AC, yn ogystal ag Ieuan Wyn Jones AC, Arglwydd Griffiths o Fforestfach, Syr Simon Jenkins, Athro Tom Nairn, yr Athro Robert Hazell, Yr Athro Michael Keating, Kirsty Williams AC, Huw Lewis AC, Adam Price AS, Leanne Wood AC, a'r Athro Charlie Jeffery.

AU8515